Diogelwch Ffordd - Addysg

Cyngor ar Ddiogelwch Ffordd ar gyfer Gyrwyr Ifanc, Teithwyr a Darpar Yrwyr

Mae Mega Drive yn rhaglen hyfforddiant ar gyfer myfyrwyr 16 i 18 oed a all fod yn bwriadu sefyll eu prawf gyrru ymarferol yn y dyfodol gweddol agos ac efallai heb fod yn gwybod am yr holl beryglon posibl sy'n rhan o yrru ar ffyrdd Prydain.

Trefnir y cynllun gan Dîm Diogelwch Ffordd Blaenau Gwent a chaiff ei ariannu gan grant diogelwch ffordd gan Lywodraeth Cymru.

I rai myfyrwyr gallai hyn fod eu profiad cyntaf o yrru car a bydd y cwrs yma'n rhoi'r hyder iddynt fynd tu ôl i'r olwyn a rhoi ystyriaeth i ddifrifol i ddysgu gyrru.

Beth sy'n digwydd yn Mega Drive?

Mae myfyrwyr sy'n cymryd rhan yn Mega Drive yn ymweld â "gorsafoedd gwaith rhyngweithiol" lle maent yn dysgu gwybodaeth hollbwysig ar bynciau cysylltiedig â gyrru.

Mae hyn yn cynnwys:

  • ymwybyddiaeth o beryglon 
  • achosion damweiniau 
  • effeithiau a chanlyniadau'r pump angheuol
    • gyrru ar ôl yfed alcohol
    • gyrru ar ôl cymryd cyffuriau
    • gor-yrru
    • defnyddio ffôn symudol a gyrru
    • peryglon peidio gwisgo gwregys.
  • beth hyn i'w wneud ar safle damwain
  • sesiynau gyrru ymarferol gyda Hyfforddydd Gyrru Cymeradwy


Cyflwynir y gorsafoedd gwaith gan amrywiaeth o sefydliadau fel:

  • Heddlu Gwent
  • Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
  • Hyfforddwyr Gyrru Cymeradwy
  • Tîm Diogelwch Ffordd Blaenau Gwent ac partneriaid awdurdodau lleol

Dogfennau Cysylltiedig

Gwybodaeth Gyswllt

Traffic Safety Officers
Civic Centre,
Ebbw Vale,
NP23 6XB

Tel No: 01495 355378