Etholiadau Nesaf

Mae’r Cyngor yn gyfrifol am drefnu pob etholiad  ar gyfer y Cynghorwyr Bwrdeistref Sirol, Cynghorwyr Cymuned, Aelodau Senedd Cymru, Aelodau Seneddol San Steffan, Aelodau’r Senedd Ewropeaidd a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu. Rydym hefyd yn gyfrifol am redeg unrhyw Refferendwm. Dros yr ychydig flynyddoedd nesaf rydym yn disgwyl yr etholiadau nesaf:

Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

Cynhelir yr etholiadau nesaf i Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent  Mai 2022.

Cynghorau Cymuned

Cynhelir yr etholiadau nesaf i Gynghorau Cymuned Mai 2022.

Aelodau Seneddol San Steffan

Cynhelir yr etholiadau nesaf i Senedd San Steffan yn 2024.

Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu

Cynhelir yr etholiadau nesaf ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn 2024.

Senedd Cymru

Cynhelir yr etholiadau nesaf i Senedd Cymru yn 2026.

Sut i Bleidleisio

Dim ond os yw’ch enw yn ymddangos ar y gofrestr etholiadol a’ch bod yn gymwys i bleidleisio yn yr etholiad a gynhelir y gallwch bleidleisio.

Gofynnir i chi gofrestru nawr ar-lein nawr os na wnaethoch hynny eto yn www.gov.uk/cofrestruibleidleisio. Byddwn angen eich rhif yswiriant gwladol a’ch dyddiad geni er mwyn cwblhau’r broses cofrestru.

Rhaid derbyn ceisiadau i bleidleisio erbyn 14 Ebrill 2022 i’ch galluogi i bleidleisio yn yr etholiadau a gynhelir ym mis Mai 2022.

Pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio

Gallwch fynd draw i’ch Gorsaf Bleidleisio leol a phleidleisio yn bersonol cyhyd â’ch bod ar y Gofrestr Etholwyr.

Byddwch yn derbyn eich cerdyn pleidleisio drwy’r post tua tair neu bedair wythnos cyn yr etholiad. Bydd manylion ar y cerdyn hwn am pryd, ble a sut i bleidleisio. Mae’n rhwyddach os ewch â hwn gyda chi pan fyddwch yn pleidleisio er y gallwch bleidleisio hebddo.

Yn yr orsaf bleidleisio bydd y Clerc Pleidleisio yn gofyn i chi i ddweud eich enw a’ch cyfeiriad yn llafar. Mae’n drosedd rhoi gwybodaeth heb fod yn wir a gall arwain at erlyniad.

Byddwch wedyn yn derbyn papur pleidleisio fydd yn dweud faint o ymgeiswyr y gallwch bleidleisio iddynt. Ewch â’r papur(au) pleidleisio i flwch pleidleisio a rhoi croes yn ymyl enw’r ymgeisydd neu ymgeiswyr y dymunwch bleidleisio iddynt.

Peidiwch ag ysgrifennu dim byd arall ar y papur neu efallai na chaiff eich pleidlais ei chyfrif. Plygwch y papur pleidleisio i guddio eich pleidlais, dangoswch y papur wedi’i blygu i’r clerc a’i roi yn y blwch pleidleisio. Nid yw’n rhaid i chi ddweud wrth neb dros bwy y gwnaethoch bleidleisio.

I ganfod ble mae’ch Gorsaf Bleidleisio leol cysylltwch â’r Adran Etholiadau yn y Cyngor ar 01495 355086 neu drwy e-bost yn electoral.services@blaenau-gwent.gov.uk

Pleidleisio drwy’r post

Gallwch bleidleisio drwy’r post os na fedrwch neu os nad ydych am fynd i’r Orsaf Bleidleisio.
Gallwch wneud cais i bleidleisio drwy’r post mewn etholiad penodol neu ar gyfer holl etholiadau’r dyfodol a bydd angen i chi lenwi ffurflen a’i dychwelyd i’r Cyngor. Mae copi o’r Ffurflen Cais am Bleidlais Post ar gael drwy gysylltu â’r Adran Etholiadau ar 01495 355086.  Gallwch wneud cais i bleidleisio drwy’r post ar unrhyw amser.

Gofynnir i chi gofio dychwelyd y ffurflen wedi’i llofnodi drwy’r post neu fynd â hi draw i’n swyddfa gan ein bod angen eich llofnod ar y ffurflen.

Ar ôl ei llenwi, dylid dychwelyd eich ffurflen at y Swyddfa Cofrestru Etholiadol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Y Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy,  NP23 6DN.

Pwy all bleidleisio drwy’r post?

Gall unrhyw un bleidleisio drwy’r post, cyhyd â’u bod wedi cofrestru ar y Gofrestr Etholwyr.
Mae pleidleisio drwy’r post yn neilltuol o ddefnyddiol i bobl sydd ar wyliau ar ddiwrnod yr etholiad, pobl sydd wedi symud tŷ (gweler hefyd sut i gofrestru os ydych wedi symud tŷ), pobl na fedrant yn gorfforol fynd i Orsaf Bleidleisio, neu unrhyw un sy’n syml eisiau pleidleisio drwy’r post!

Sut mae pleidleisio drwy’r post yn gweithio?

Anfonir eich papur pleidleisio, ynghyd â datganiad pleidlais bost, atoch tua wythnos cyn etholiad.
Bydd angen i chi roi eich dyddiad geni a’ch llofnod ar y datganiad, marcio eich papur(au) pleidleisio yn ôl y cyfarwyddyd ar y papur pleidleisio a dychwelyd y datganiad a’r papur pleidleisio yn yr amlen flaendaledig a roddwyd.

Byddwn wedyn yn gwirio eich dyddiad geni a’ch llofnod gyda’r manylion a roddwyd yn flaenorol ar eich ffurflen gais i atal twyll ac i ddiogelu eich pleidlais. Os oes rheswm dilys pam na allwch roi eich llofnod arferol gellir ei hepgor ond bydd yn dal i fod angen i chi roi eich dyddiad geni.

Os penderfynwch gofrestru fel pleidleisiwr post ni fedrwch, mewn unrhyw amgylchiadau, bleidleisio yn bersonol mewn gorsaf bleidleisio. Fodd bynnag, gallwch ddal i fynd â’ch pleidlais post i’r orsaf bleidleisio ar y diwrnod pleidleisio.

Pleidleisio drwy ddirprwy

Mae pleidleisio drwy ddirprwy yn golygu cael rhywun i bleidleisio ar eich rhan. Gall hyn fod naill ai fod yn bersonol yn eich Gorsaf Bleidleisio arferol neu drwy’r post.

Gall unrhyw un fod yn ddirprwy i chi cyhyd â’u bod yn gymwys i bleidleisio yn etholiadau’r Deyrnas Unedig a’u bod yn barod i bleidleisio ar eich rhan.

Sut mae gwneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy?

I wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy bydd angen i chi lenwi ffurflen a’i dychwelyd i’r Cyngor. Gallwch wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy yma neu gallwch gael ffurflen drwy gofrestru â’r Swyddfa Cofrestru Etholiadol ar 01495 355086.  Dylech lenwi’r ffurflen a’i llofnodi. Ar ôl ei llenwi, dychwelwch eich ffurflen i’r Swyddfa Cofrestru Etholiadol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Y Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy, NP23 6DN.

Beth sy’n digwydd ar ôl i mi wneud cais?

Mae’n rhaid i’ch dirprwy fynd i’ch gorsaf bleidleisio leol er mwyn pleidleisio. Os na all eich dirprwy gyrraedd yr orsaf bleidleisio, gallant wneud cais i bleidleisio drosoch drwy’r post. Gallant wneud cais i wneud hyn hyd at 11 diwrnod cyn diwrnod yr etholiad. Gall eich swyddfa cofrestru etholiadol roi mwy o fanylion i chi am hyn. Anfonir cerdyn pleidleisio drwy ddirprwy at eich dirprwy, yn dweud wrthynt ble a phryd i bleidleisio.
Mae’n rhaid i chi adael i’ch dirprwy wybod sut ydych eisiau iddynt bleidleisio ar eich rhan, er enghraifft, pa ymgeisydd neu ba blaid.

Os gallwch fynd i’r orsaf bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad, gallwch ddal i bleidleisio yn bersonol cyhyd nag yw’ch dirprwy eisoes wedi gwneud hynny neu heb wneud cais i bleidleisio drwy’r post drosoch.

Pwy all bleidleisio drwy ddirprwy?

Gallwch wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy cyhyd â’ch bod ar y gofrestr etholiadol. Mae’n rhaid i chi roi rheswm pan wnewch gais am bleidlais drwy ddirprwy. Gallwch wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy os:

  • Na allwch fynd i’r orsaf bleidleisio ar gyfer un etholiad neilltuol, er enghraifft, os ydych i ffwrdd ar wyliau
  • Bod gennych gyflwr corfforol sy’n golygu na fedrwch fynd i’r orsaf bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad
  • Bod eich gwaith yn golygu na allwch fynd i’r orsaf bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad
  • Mae eich presenoldeb ar gwrs addysgol yn golygu na allwch fynd i’r orsaf bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad
  • Eich bod yn ddinesydd Prydeinig yn byw dramor
  • Eich bod yn was y goron neu’n aelod o Luoedd Arfog Ei Mawrhydi

Fel arfer y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy yw 6 diwrnod gwaith cyn etholiad. Fodd bynnag, os oes gennych argyfwng meddygol 6 diwrnod cyn diwrnod yr etholiad neu wedyn, gallwch wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy argyfwng os yw’r argyfwng yn golygu na allwch fynd i’r orsaf bleidleisio yn bersonol.