Safonau Tai

Safonau Tai

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn gyfrifol am orfodaeth safonau tai ym Mlaenau Gwent.

Mae gwasanaethau yn cynnwys:

  • Ymchwilio problemau mewn tai rhent a chynnal asesiadau dan y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai i sicrhau fod unrhyw safle preswyl yn darparu amgylchedd iach a diogel ar gyfer unrhyw ddarpar feddiannwr neu ymwelydd.
  • Rhoi cyngor i landlordiaid a thenantiaid sector preifat.
  • Delio gyda niwsans cyhoeddus a statudol megis safleoedd brwnt, safleoedd niweidiol, lleithder o adeiladau cyfagos, mwg drwy’r wal gydrannol
  • Delio gydag adeiladau gwag
  • Delio gydag aflonyddu gan landlord neu droi allan yn anghyfreithlon.
  • Delio gyda thai aml-feddiannaeth a thrwyddedu tai aml-feddiannaeth.
  • Archwiliadau mewnfudo. Yn aml bydd person sy’n dymuno dod ag aelod o’r teulu nad yw’n breswyl yn y Deyrnas Unedig i’r Deyrnas Unedig angen tystiolaeth fod eu hannedd arfaethedig yn addas.

Gwybodaeth landlordiaid

Hunan-asesiad Landlordiaid System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai

Canllawiau Landlord System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai

Cyngor Twf Lleithder a Llwydni

Canllawiau Landlordiaid ar Ddiogelwch Nwy

Canllawiau Landlordiaid ar Ddiogelwch Trydanol

Canllawiau Landlordiaid i Ddiogelwch Tân

Carbon Monocsid

Rhentu Doeth Cymru – Canllawiau a Dogfennau Defnyddiol i’w Lawrlwytho

Gwybodaeth i denantiaid

Cyngor Twf Lleithder a Llwydni

Rhentu Doeth Cymru – Gwybodaeth i Denantiaid

Cais Archwiliad Mewnfudo

Rhentu Doeth Cymru

Mae’n ofyniad cyfreithiol i landlordiaid ac asiantau fod wedi cofrestru a/neu drwyddedu gyda Rhentu Doeth Cymru. Os ydych yn berchen, yn rhentu mas, yn rheoli a/neu yn byw mewn eiddo ar rent yna bydd y gyfraith hon yn effeithio arnoch. I ganfod mwy ac i wneud cais ewch i www.rhentudoeth.llyw.cymru neu ffonio 03000 133344.

Isafswm Gofynion Effeithiolrwydd Ynni

Mae’n rhaid i bob tŷ ar rent preifat yn awr gyrraedd isafswm o raddiad effeithiolrwydd ynni E yn unol gyda Rheoliadau Effeithiolrwydd Ynni (Eiddo Rhent Preifat) (Lloegr a Chymru) 2015. Bernir fod unrhyw eiddo rhent domestig nad yw’n cyrraedd yr isafswm gofynion yn anghyfreithlon a gall y landlord fod yn destun cosb sifil o hyd at £5000. Mae rhai eithriadau. I gael mwy o wybodaeth ewch i:

Gofynion Mesur Effeithiolrwydd Ynni – Rhentu Doeth Cymru (llyw.cymru)

Cymorth ariannol ar gyfer gwelliannau effeithiolrwydd ynni – Rhentu Doeth Cymru (llyw.cymru)

Dogfen canllawiau’r Llywodraeth ac eithriadau

Gall cymorth ariannol hefyd fod ar gael gan y Cyngor –  (bydd dolen ar gael yn fuan)

Tystysgrifau Perfformiad Ynni (EPC) – Mae graddiad ynni adeiladau ar gael ar yr EPC ac mae copi o’r dystysgrif ar gael yn www.epcregister.com.

Dolenni Defnyddiol Eraill

Deddf Rhentu Cartrefi: Mae’r Ffordd Rydych yn Rhentu wedi Newid - Rhentu Doeth Cymru (llyw.cymru)

Mae cyfraith rhentu yn newid: Rhentu Cartrefi Cymru (llyw.cyrmru)

Rhentu Cartrefi: Ffioedd Gosod ac yn y blaen (Taliadau a Ganiateir) Rheolau a Chanllawiau

Adrodd Problem

I gael mwy o wybodaeth neu i wneud cwyn am gyflwr tai anfonwch e-bost at  environmental.health@blaenau-gwent.gov.uk neu ffonio 01495 357813

Caiff Cwynion am Safonau Tai eu trin yn unol â Pholisi Gorfodaetu Safonau Tai y Cyngor