Pwy yw’r plant sydd angen eu mabwysiadu?

Mae’r holl blant sydd angen eu mabwysiadu’n rhannu’r un angen am le diogel parhaol mewn teulu.

Oedrannau plant sydd angen eu mabwysiadu

Mae plant o bob oedran angen eu mabwysiadu, ar gyfartaledd plant bach ifanc iawn i rai hyd at ddeng mlwydd oed. Yn gyffredinol mae plant sydd angen rhieni mabwysiadol rhwng dau a deng mlwydd oed, gyda phob un yn gobeithio am gariad a diogelwch teulu parhaol.

Mabwysiadu plant hŷn

Wrth ystyried mabwysiad mae nifer o bobl yn tybio “yr ifancaf y gorau ac yn anghofio am y posibilrwydd o blant hŷn.
Pan yn mabwysiadu plentyn hŷn (dros 5 mlwydd oed):

  • Gallwch ddysgu mwy amdanynt yn gyntaf o ran galluoedd, diddordebau a phersonoliaeth.
  • Fel arfer, mae gennych fwy o hanes am gerrig milltir datblygiad, sgiliau ac anghenion cyn iddynt ddod i fyw gyda chi.
  • Gellir adnabod a deall rhai anhwylderau a’u heffeithiau megis anawsterau ymlynu (bondio) yn gliriach mewn plant hŷn.
  • Mae plant hŷn yn gallu rhyngweithio a chwarae gyda chi. Gall mabwysiadu plentyn hŷn, er yn aml yn fwy heriol, fod y peth gwerth chweil y gwnewch chi yn eich bywyd. Mae helpu plentyn i ddod i delerau gyda’i hanes anodd ac wynebu’r dyfodol gyda gobaith ac optimistiaeth yn dod â’u gwobrau eu hun.

 

Brodyr a chwiorydd

Mae gan nifer o’r plant frodyr a chwiorydd sydd angen eu lleoli gyda’i gilydd. Rydym yn cydnabod y pwysigrwydd o gadw brodyr a chwiorydd gyda’i gilydd. Mae’n ddigon anodd i blant gael eu gwahanu o’u rhieni naturiol felly mae cael eu gwahanu o’u brawd neu chwaer yn ergyd ychwanegol. Mae’n werth meddwl hyd yn oed ar y cam cynnar hwn os gallwch weld eich hun gyda mwy nag un plentyn yn y dyfodol. Os yw’n rhywbeth rydych wedi meddwl am, gallai mabwysiadu brodyr a chwiorydd fod yn opsiwn i chi.

Cefndir a phrofiadau cynnar plant

Mae nifer o’r plant sydd angen eu mabwysiadu wedi cael profiadau anodd yn eu teulu naturiol a allai gynnwys esgeulustod neu gamdriniaeth gorfforol, emosiynol neu rywiol.

Bydd pob un o’r plant wedi cael profiad o golled wrth gael eu gwahanu o’u teuluoedd naturiol. Mae profiadau o’r fath yn gallu effeithio ar ymddygiad plant a’u gallu i ymddiried mewn gofalwyr newydd. Mae angen i deuluoedd mabwysiadol gael amynedd a dealltwriaeth i helpu plant oresgyn y profiadau negyddol. Mae’r plant angen amser i sefydlu ymddiriedaeth a datblygu cyswllt emosiynol.

Bydd gan nifer o blant gofion o’u teulu naturiol, sy’n bwysig. Mae tystiolaeth i ddangos bod plant sy’n deall eu bod wedi’u mabwysiadu o gam cynnar yn derbyn eu statws ac yn addasu’n dda. Mae felly’n bwysig bod mabwysiadwyr yn gallu bod yn agored ac yn onest gyda phlentyn am eu mabwysiadu.

Plant anabl

Mae plant anabl a phlant sydd â datblygiad ansicr yn y dyfodol sydd angen mabwysiadwyr gyda’r sgiliau neu barodrwydd i ddysgu sut i fodloni’u hanghenion a’u helpu i gyrraedd eu potensial.

Gwybodaeth Gyswllt

Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
C2BG
Y Swyddfeydd Cyffredinol
Heol Gwaith Dur
Glynebwy
NP23 6DN

Rhif Ffôn: (01495) 315700
Ffacs: (01495) 353350

Minicom: (01495) 355959

Ymholiadau am wybodaeth:
E-bost : info@blaenau-gwent.gov.uk


Ar gyfer atgyfeiriadau:
E-bost : DutyTeam@blaenau-gwent.gcsx.gov.uk