Gwasanaethau Cefnogaeth Mabwysiadu

Pa gefnogaeth fydda i’n ei chael?

Pan fydd plentyn yn cael ei uno gyda chi, bydd asesiad a chynllun o unrhyw anghenion cefnogaeth ar gyfer y mabwysiadu yn cael eu paratoi. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, offer arbenigol, therapi, cefnogaeth ymarferol a chymorth gyda threfniadau cyswllt neu, mewn amgylchiadau eithriadol, cefnogaeth ariannol.

Nid yw’r ddarpariaeth o wasanaethau cefnogaeth ar gyfer mabwysiadu yn gyfyngedig i gyfnod y mabwysiadu yn unig, ond mae’n ymestyn i’r dyfodol hefyd. Mae teuluoedd mabwysiadol yn gallu mynd at Wasanaethau Cymdeithasol ar unrhyw adeg a gofyn am gymorth neu gyngor ychwanegol. Ar gyfer y tair blynedd cyntaf ar ôl y gorchymyn mabwysiadu, bydd hwn yn cael ei darparu gan asiantaeth mabwysiadu y Gwasanaethau Cymdeithasol a leolodd y plentyn, ar ôl tair blynedd yn dilyn y gorchymyn mabwysiadu, mae’r gwasanaethau cefnogaeth yn cael eu darparu gan y Gwasanaethau Cymdeithasol yn yr ardal ble mae’r mabwysiadwyr yn byw.