Gwasanaeth Mabwysiadu De Ddwyrain Cymru

Allech chi gynnig cartref cariadus ac uned deuluol i blentyn neu blant sy'n agored i niwed? Allech chi newid dyfodol plentyn? Mae hyn yn rhywbeth y gallech ei wneud trwy ddod yn rhiant mabwysiadol. Os ydych chi erioed wedi ystyried cymryd y cam mawr hwn, mae'r wybodaeth hon ar eich cyfer chi.

Darperir Gwasanaeth Mabwysiadu De Ddwyrain Cymru (SEWAS) gan awdurdodau lleol Torfaen, Sir Fynwy, Caerffili, Casnewydd a Blaenau Gwent, ac mae’n darparu gwasanaethau mabwysiadu ar draws y pum bwrdeistref a thu hwnt. Os oes diddordeb gennych mewn mabwysiadu ac os hoffech gael rhagor o wybodaeth, mae tîm SEWAS bob tro’n hapus i helpu.

Dyddiadau recriwtio SEWAS 2022

  • Dydd Mawrth 17 Mai
  • Dydd Sadwrn 16eg Gorffennaf
  • Dydd Mawrth 20fed Medi
  • Dydd Sadwrn 19eg Tachwedd

Ysgrifennwyd y wybodaeth yma i gychwyn ateb rhai o’r cwestiynau allweddol sydd gennych, megis:

  • Beth yw mabwysiadu?
  • Ydw i’n gallu mabwysiadu?
  • Pwy yw’r plant sydd angen eu mabwysiadu?
  • Sut i ymgeisio a beth sy’n digwydd nesaf?
  • Pa gefnogaeth sydd ar gael i mi?
  • Ble gallaf gael rhagor o wybodaeth?
  • Alla i fabwysiadu fy llysblant?

Gwybodaeth Gyswllt

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â

Gwasanaeth Mabwysiadu De Ddwyrain Cymru
Adain y Gogledd
2il Lawr, Bloc B
Tŷ Mamhilad
Ystâd Parc Mamhilad
Pont-y-pwl
Torfaen
NP4 0HZ 

Ffôn: (01495) 355766
E-bost : adoption@blaenau-gwent.gov.uk