Gwasanaeth Casglu Gwastraff Swmpus
Mae’r Cyngor yn ailddechrau’r Gwasanaeth Casglu Gwastraff Swmpus o ddydd Llun 18 Mai 2020
Dim ond ar-lein y gellir gwneud cais ac archebu’r Gwasanaeth Casglu Gwastraff Swmpus
Dim ond ar-lein y gallwch wneud cais a thalu am Gasgliad Gwastraff Swmpus drwy borth cwsmeriaid Fy Ngwasanaethau.
Gyda phandemig cyfredol Covid-19, caiff adnoddau eu canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau hanfodol. Felly, ni all Canolfan Cyswllt y Cyngor brosesu eich cais i archebu ar hyn o bryd.
Bydd y Cyngor yn casglu eitemau sy’n rhy fawr i fynd i’ch bin tebyg i hen oergell, teledu, matres neu gadair am y gost ddilynol:
1 eitem - £6.00
2 eitem - £12.00
3 eitem - £18.00
4 eitem - £24.00
5 eitem - £30.00
Eithriadau:
Oergell/Rhewgell math Americanaidd £24.00
Offer Ystafell Ymolchi £18.00
Rholyn Carpedi £18.00
Siediau 6 x 4 £20.00
Caiff pris llawn eitemau a’r cyfanswm cyfredol eu rhoi fel rhan o’r broses archebu
Ni chaiff yr eitemau dilynol eu casglu:
Deunyddiau adeiladu, pridd, tywod, sment, pren rhydd neu baent
Yr hyn y byddwch ei angen
Dim ond drwy Borth Cwsmeriaid Fy Ngwasanaethau y gall cwsmeriaid wneud cais ar-lein am Gasgliad Gwastraff Swmpus.
• Eich manylion mewngofnodi Fy Ngwasanaethau, neu gofrestru am gyfrif pan fyddwch ar y sgrin mewngofnodi
• Byddwch angen cerdyn debyd neu gredyd i wneud cais am y gwasanaeth.
Bydd y broses ar-lein yn eich llywio drwy archebu casgliad, gwneud taliad a gwybodaeth ar pryd a sut y dylech roi’r gwastraff ar ochr y palmant ar gyfer ei gasglu.
Os ydych angen help
Os oes gennych unrhyw broblemau neu os cafodd eich casgliad ei fethu, ychwanegwch Nodyn at eich cais drwy Borth Cwsmeriaid Fy Ngwasanaethau neu e-bost info@blaenau-gwent.gov.uk.