Gwasanaethau Cynnal a Chadw yn y Gaeaf

Cynnal a Chadw yn y Gaeaf 

Mae gan y Cyngor “Gynllun Eira” er mwyn bod yn barod ar gyfer cyfnodau garw ac estynedig o dywydd rhewllyd.

Mae gan y Cyngor gyflenwad o halen wedi’i storio yn storfa’r Cyngor er mwyn bod yn barod ar gyfer amodau rhewllyd iawn ac estynedig.

Pa wasanaethau sy’n rhedeg yn ystod yr amodau eira trafferthus?

Bydd trigolion ac aelodau’r gymuned yn gallu cael gwybodaeth ar wasanaethau ac ysgolion sydd ar gau ar y wefan hon. 

Angladdau – Fel rhan o’n cynllunio ar gyfer tywydd garw, mae’r Cyngor hefyd yn barod i helpu gydag angladdau.

Apwyntiadau Meddygol Brys– Gweithiwn gyda Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan ac Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i ddynodi'r cleifion hynny sydd angen cymorth meddygol brys neu hanfodol. Rhoddir blaenoriaeth cymorth i'r rhai sy'n cael triniaeth achub bywyd i sicrhau y gallant fynychu eu hapwyntiadau. Mewn tywydd garw yn y gaeaf gofynnir i gleifion gysylltu â'u hysbyty i wirio os yw eu hapwyntiad yn mynd yn y ei flaen, ac os cadarnheir cysylltwch â ni ar  01495 311556 i ofyn am gymorth. Gofynnir i chi nodi y byddwn yn gofyn am fanylion gennych gan y bydd angen i ni gysylltu â'r awdurdodau meddygol er mwyn dilysu'r apwyntiad.

Gwelwch ein tudalen ar Lwybrau Graeanu’r Gaeaf a Biniau Halen am wybodaeth ar y lleoliadau a’r llwybrau

Gwybodaeth Gyswllt

Cynnal a Chadw yn y Gaeaf
01495 311556
info@blaenau-gwent.gov.uk