Cytundeb Cyflenwi Diwygiedig ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Newydd
Cafodd Cytundeb Cyflenwi diwygiedigei gytuno gan Lywodraeth Cymru ar 6 Hydref 2020. Mae hyn yn golygu y caiff y gwaith ar y Cynllun Datblygu Lleol Newydd yn awr ailddechrau yn ffurfiol.
Mae’r Cytundeb Cyflenwi diwygiedig yn cynnwys amserlen newydd i ystyried yr oedi a fu, a Chynllun Cynnwys Cymunedau diwygiedig yn nodi sut y gall aelodau o’r cyhoedd a grwpiau eraill â diddordeb gyfrannu at baratoi’r Cynllun yn unol â chyngor diweddaraf y Llywodraeth ac egwyddorion ymbellhau cymdeithasol.
Caiff rhai o’r newidiadau allweddol eu crynhoi islaw:
· Cyfnod ymgynghori hirach ar gyfer y cynllun adnau (8 wythnos yn hytrach na 6 wythnos)
· Eglurhad lle mae dogfennau ar gael (llyfrgelloedd a swyddfeydd y cyngor os ar agor)
· Defnyddio llythyrau hysbysiad cymdogion i roi gwybod i bobl am ddyraniadau os nad yw hysbysiadau safle yn bosibl
· Anfon copïau electronig neu gopïau caled o ddogfennau lle mae angen
· Defnyddio safleoedd ymgynghori mwy i alluogi ymbellhau cymdeithasol
· Apwyntiadau unigol gyda swyddogion i’w trefnu ymlaen llaw
· Mwy o ddefnydd o dechnolegau seiliedig ar y we (pytiau fideo byr a chyflwyniadau electronig) i gyfleu negeseuon
Bydd y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig yn cwmpasu’r cyfnod 2018-2023. Disgwylir i ni yn awr fabwysiadu’r Cynllun yn hydref 2022.
Mae fersiwn rhwydd ei ddarllen o’r Cytundeb Cyflenwi ar gael yma.