Yr wythnos hon, mae Cyngor Blaenau Gwent wedi derbyn grant Llywodraeth Cymru o £28,566 i gynorthwyo gyda chreu Hybiau Cynnes yn y fwrdeistref.
Bydd y grantiau Hybiau Cynnes yn cael eu gweinyddu gan Gyngor Blaenau Gwent a bydd cyllid yn cael ei ddyrannu i gefnogi Hybiau Cynnes sy’n bodoli eisoes neu rai newydd sy’n canolbwyntio ar ddarparu:
- lluniaeth sylfaenol, byrbrydau a phrydau bwyd os oes modd
- cyfle i gymdeithasu
- cyngor a chymorth ar faterion ariannol, iechyd a lles neu gynhwysiant digidol.
- gweithgareddau megis ymarfer corff, celfyddydau a gweithgareddau diwylliannol.
Dywedodd Cyng Steve Thomas, Arweinydd Cyngor Blaenau Gwent:
“Sylweddolwn y pwysau enfawr mae’r argyfwng costau byw presennol yn ei gael ar lawer o bobl yn lleol, a gwnaethom hi’n un o’n prif flaenoriaethau i wneud popeth a fedrwn fel Cyngor, a drwy weithio gyda phartneriaid, i gefnogi ein cymunedau.
“Mae Canofannau Clyd yn rhywle lle caiff preswylwyr amgylchedd croesawgar, diogel a thwym y gallant fynd iddo ar adeg pan y gall pethau fod yn anodd gartref am nifer o resymau y gaeaf hwn. Mae rhai canolfannau clyd yn y fwrdeistref ar hyn o bryd a rydym wedi derbyn cyllid i sefydlu prosiectau eraill. Rydym yn edrych am grwpiau cymunedol a mudiadau sy’n deal anghenion pobl leol i wneud cais a gweithio gyda ni i ddarparu’r cynlluniau hyn.”
Bydd grantiau bach o tua £1000 ar gael i ymgeiswyr sy'n bodloni'r meini prawf hwn. Bydd angen i ymgeiswyr lenwi ffurflen gais ar-lein fer i nodi sut mae'r cynllun i weithredu'r canolbwynt cynnes ar gyfer y cyfnod hyd at 31 Mawrth 2023 a dangos beth maen nhw'n bwriadu gwario'r grant arno, fel costau rhedeg, lluniaeth, neu gost offer.
I wneud cais cliciwch yma neu am fwy o wybodaeth cysylltwch â Leanne.ball@blaenau-gwent.gov.uk neu Communityhubs@blaenau-gwent.gov.uk