Gall aelwydydd cymwys hawlio taliad unigol o £200 gan eu hawdurdod lleol. Mae’r arian ar gyfer cymorth tuag at dalu am filiau tanwydd y gaeaf. Mae hyn yn ychwanegol at daliad tanwydd y gaeaf a gynigir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Bydd y taliad ar gael i bob cwsmer ynni cymwys sut bynnag maent yn talu am danwydd. Mae hyn yn cynnwys taliadau a wneir ar fesurydd blaendalu, drwy ddebyd uniongyrchol, talu’n chwarterol neu’r rhai sy’n defnyddio tanwydd heb fod ar y grid.
Mae’n rhaid i ymgeiswyr hefyd fod yn gyfrifol am dalu biliau ynni yr eiddo.
Bydd y cynllun ar agor i aelwydydd lle mae ymgeisydd yn derbyn un o’r budd-daliadau cymwys rhwng 1 Medi a 31 Ionawr 2023:
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisiwr Gwaith Seiliedig ar Incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
- Credyd Cynhwysol
- Credyd Treth Gwaith
- Credyd Treth Plant
- Credyd Pensiwn
- Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
- Lwfans Byw i’r Anabl (DLA)
- Lwfans Gweini
- Lwfans Gofalwr
- Budd-daliadau Cyfrannol
- Cynllun Gostwng y Dreth Gyngor
- Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
- Lwfans Gweini Cyson
- Atodiad Symudedd Pensiwn Rhyfel
Os nad ydych yn derbyn un o’r budd-daliadau cymwys uchod ond bod rhywun sy’n byw gyda chi yn derbyn un o’r isod rhwng 1 Medi 2022 a 31 Ionawr 2023:
- Lwfans Gweini
- Lwfans Byw i’r Anabl
- Taliad Annibyniaeth Personol
- Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
- Lwfans Gweini Cyson
- Atodiad Symudedd Pensiwn Rhyfel
Os gwnaethoch gais yn ddiweddar am ac wedi derbyn y £150 yn gysylltiedig gyda’ch Cyfrif Treth Gyngor (Taliad Cymorth £150 Costau Byw), caiff taliad Cymorth Tanwydd y Gaeaf Cymru ei dalu’n awtomatig i’ch cyfrif banc.
Os na, bydd ceisiadau’n agor ar 26 Medi 2022 ac yn cau ar 28 Chwefror 2023. Mae’r ffurflen gais i’w gweld yma.