Y cynllun prydau ysgol am ddim i bawb yn cychwyn cael ei weithredu ym mis Medi

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd plant dosbarth Derbyn yn dechrau cael prydau ysgol am ddim mor gynnar â mis Medi.

Fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio Llafur/Plaid Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio ag awdurdodau lleol i weithredu’r ymrwymiad, sef bod holl ddisgyblion cynradd yn cael prydau ysgol am ddim erbyn 2024.

Mae’r cyhoeddiad heddiw yn dangos y cynnydd sydd wedi ei wneud o ran cyflwyno a gweithredu’r cynllun hyd ym. Mae Llywodraeth Cymru a Plaid Cymru yn benderfynol o weithredu’r cynllun cyn gynted â phosibl, o gofio’r argyfwng costau byw, ac maent yn cydweithio ag awdurdodau lleol i sicrhau bod y cynnig yn cael ei gyflwyno cyn gyflymed ag y bo modd. Mae £225m wedi’i neilltuo ar gyfer hyn dros y tair blynedd nesaf.

O fis Medi, bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi arian i awdurdodau lleol ledled Cymru i’w helpu i gychwyn cynnig prydau ysgol maethlon, am ddim, gan ddechrau gyda’r dysgwyr ieuengaf. Bydd y rhan fwyaf o ysgolion yng Nghymru yn barod i gychwyn y cynnig ym mis Medi, er mwyn sicrhau bod plant ar draws Cymru yn elwa ar y cynnig cyn gynted â phosibl.

Bydd hyn yn golygu y bydd y rhan fwyaf o blant mewn dosbarthiadau Derbyn yn dechrau derbyn prydau ysgol am ddim mewn ysgolion cynradd o fis Medi.

Erbyn mis Ebrill 2023 bydd y rhan fwyaf o blant ym Mlynyddoedd 1 a 2 hefyd yn dechrau cael prydau ysgol am ddim, gydag awdurdodau lleol yn cael yr hyblygrwydd, y cymorth a'r cyllid i ddechrau darparu prydau ysgol am ddim i'r rhai ym Mlynyddoedd 1 a 2 yn gynharach nag Ebrill os oes modd. 

Bydd y flwyddyn gyntaf hon yn canolbwyntio ar feithrin gallu ysgolion i gyflwyno'r cynnig cynyddol hwn a bydd yn anelu at sicrhau, erbyn dechrau tymor yr haf, y bydd y rhan fwyaf o ddisgyblion yn y Dosbarth Derbyn a Blynyddoedd 1 a 2 yn gallu cael prydau ysgol am ddim. Ni fydd cyflwyno'r cynllun cyffredinol yn effeithio ar y rhai mewn blynyddoedd hŷn sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.

Bydd Llywodraeth Cymru a Plaid Cymru yn parhau i gydweithio ag awdurdodau lleol ar gynlluniau i ymestyn y cynllun ymhellach i flwyddyn academaidd 2023/24 i gyflawni'r ymrwymiad i bob disgybl ysgol gynradd gael pryd ysgol am ddim erbyn 2024.

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:

"Ni ddylai plentyn fyth fod yn llwgu yn yr ysgol. Gyda llawer o deuluoedd yn teimlo’r esgid yn gwasgu oherwydd yr argyfwng costau byw, rydym wedi ymrwymo'n llwyr i gymryd camau ymarferol i gefnogi ein plant a'n pobl ifanc.

"Mae ein rhaglen newydd o brydau ysgol am ddim i blant cynradd yn un o'r ffyrdd allweddol yr ydym yn ceisio helpu teuluoedd. Mae plant ifanc yn fwy tebygol o fod yn byw mewn tlodi incwm cymharol, felly rydym yn dechrau gyda phrydau ysgol am ddim i ddosbarth Derbyn o fis Medi, ac yna bydd y rhan fwyaf o blant Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 hefyd yn cael prydau ysgol am ddim erbyn mis Ebrill nesaf.

"Hoffwn ddiolch i awdurdodau lleol ac ysgolion am gydweithio â ni mewn ffordd adeiladol dros y misoedd diwethaf i’n helpu i wireddu hwn."

Dywedodd yr Aelod Dynodedig, Siân Gwenllian:

"Dyma ddechrau’r gwaith o weithredu ymyriad sylweddol sy’n mynd i wneud gwahaniaeth go iawn nawr ac yn y dyfodol – nid yn unig o ran taclo llwgu ymysg plant a thlodi plant, ond mewn perthynas â’n nodau ehangach, sef cynhyrchu bwyd yn lleol a chefnogi economïau lleol.

"Ni ddylai’r un plentyn lwgu, a’r nod gyffredinol o gyrraedd y nifer fwyaf o ddisgyblion â phosibl, cyn gynted â phosibl, yn enwedig yn sgil yr argyfwng costau byw nas gwelwyd mo’i fath o’r blaen. O fis Medi, bydd miloedd yn rhagor o blant yn cael prydau ysgol am ddim.

"Bydd yr ymrwymiad uchelgeisiol hwn yn newid bywyd llawer o bobl ac yn help sylweddol i deuluoedd ledled y wlad, ac mae’n dangos sut y gallwn gyda’n gilydd wneud gwahaniaeth gwirioneddol ar lawr gwlad."