Cynhelir yr Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol rhwng 18 – 22 Gorffennaf ac mae’r ymgyrch yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau a all effeithio ar ansawdd bywyd unigolion a chymunedau.
Mae Cyngor Blaenau Gwent yn annog pawb i feddwl am eu hymddygiad a sut y gall effeithio ar eu cymdogion a’r gymuned yn ehangach. Hoffai’r Cyngor ddefnyddio’r ymgyrch hon i roi sylw i dipio anghyfreithlon ac atgoffa preswylwyr am y ‘ddyletswydd gofal’ sydd gan ddeiliaid tai am y ffordd y caiff eu gwastraff ei drosglwyddo.
Os ydych yn talu i rywun fynd â sbwriel neu eitemau nad ydych eu heisiau o’ch cartref, mae’n hanfodol eich bod wedi cofrestru ar gyfer cludo gwastraff a’u bod yn cael gwared â’r gwastraff yn gywir. Gallwch wneud hyn drwy
1. Gwirio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru fod y person neu gwmni a ddefnyddiwch wedi cofrestru. Gallwch wneud hyn ar-lein yn cyfoethnaturiol.cymru/gwirioGwastraff neu drwy ffonio 03000 653000 (ar agor 8am – 6pm ar ddyddiau’r wythnos, codir y gyfradd genedlaethol ar alwadau).
2. Gofyn i ble mae eich gwastraff yn mynd.
Argymhellir hefyd eich bod yn:
• Cadw cofnod o unrhyw wiriadau a wnewch, yn cynnwys enw a rhif cofrestru y gweithredydd
• Cadw derbynneb sy’n cynnwys disgrifiad o’r gwastraff a’r cwmni a ddefnyddiwyd
• Cadw cofnod o fanylion y busnes neu gerbyd (rhif cofrestru, gwneuthuriad, model, lliw)
Gofynnir i chi hefyd gofio fod unigolion heb gofrestru yn aml yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol a phrisiau isel i dwyllo pobl i gredu eu bod yn wasanaethau dilys casglu gwastraff, pan mewn gwirionedd caiff y gwastraff a gasglwyd wedyn ei dipio’n anghyfreithlon mewn caeau, ar ffyrdd gwledig ac wrth ymyl y ffordd.
Wardeiniaid Gorfodaeth Rheoleiddio Gwastraff Cyngor Blaenau Gwent ynghyd â’r Swyddogion Gorfodaeth yw’r timau rhent flaen sy’n delio gyda thipio anghyfreithlon. Ers mis Chwefror 2022 mae hyn wedi arwain at:
• Dros 30 o hysbysiadau cosb sefydlog o £400 am dipio anghyfreithlon i unigolion a busnesau
• Dros 15 digwyddiad o dipio anghyfreithlon a gofnodwyd ar deledu cylch cyfyng a ddefnyddiwyd yn benodol i dargedu lleoliadau tipio anghyfreithlon
• Cyhoeddi hysbysiadau cosb sefydlog o £400 i 3 deiliad tŷ am, fethu sicrhau y cafodd gwastraff eu cartref ei drosglwyddo i berson awdurdodedig.
Dywedodd y Cynghorydd Helen Cunningham, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Gweithrediaeth Lle ac Amgylchedd:
“Mae mwyafrif helaeth ein preswylwyr yn bobl gyfrifol ac rydym yn ymroddedig i gadw Blaenau Gwent yn lân a gwyrdd. Yn ogystal â bod yn drosedd, mae tipio anghyfreithlon yn mynd â llawer o amser ac arian i’w glirio. Fodd bynnag mae’r Cyngor yn hollol ymroddedig i gymryd camau gweithredu ffurfiol i ddod â throseddwyr o flaen eu gwell.”
Os gwelwch rywun yn tipio’n anghyfreithlon neu’n gweld gwastraff sydd eisoes wedi ei adael, gofynnir i chi roi adroddiad amdano ar-lein neu gysylltu â C2BG ar (01495) 311556. Bydd angen defnyddio porwr fel Chrome, Edge neu Safari i ddefnyddio’r ffurflen. Ni fydd yn gweithio yn Internet Explorer.
Bydd yn help i’r Cyngor os gallwch roi’r manylion dilynol:
• Ble mae’r gwastraff, yn defnyddio tirnodau lleol lle bynnag sy’n bosibl
• Cynnwys y gwastraff a syniad bras o faint o wastraff sydd
• Unrhyw rifau cofrestru cerbydau a’r amser a’r dyddiad y gwelsoch y digwyddiad yn digwydd
• Faint o bobl oedd yn cymryd rhan a disgrifiad ohonynt
• Gofynnir i chi beidio ymyrryd gyda’r gwastraff. Os yw’n cynnwys eitemau a all ein harwain at y person cyfrifol mae angen gadael y dystiolaeth hon yn ei lle nes y gall ein Swyddogion Gorfodaeth dynnu ffotograff o’r gwastraff a sicrhau’r dystiolaeth.
Mae Cyngor Blaenau Gwent yn darparu nifer o wasanaethau lle gellir gwaredu â gwastraff yn y ffordd gywir. Mae gwybodaeth bellach ar gael yma.
Gall preswylwyr hefyd drefnu i eitemau mawr gael eu casglu drwy’r gwasanaeth casglu gwastraff swmpus. I drefnu casgliad a thalu’n ddiogel ar-lein, cliciwch ar y ddolen ddilynol: https://www.blaenau-gwent.gov.uk/en/resident/waste-recycling/bulky-waste-collection-service/