Wythnos Ymwybyddiaeth Eiriolaeth 2021

Yn rhy aml o lawer, clywn nad yw llawer o bobl yn deall eiriolaeth – beth yw eiriolaeth a’r gwahaniaeth rhyngddo â mathau eraill o gymorth. Nod Wythnos Ymwybyddiaeth Eiriolaeth 2021 (1 i 5 Tachwedd) yw helpu i newid hynny drwy atgoffa pobl beth yw eiriolaeth, sut mae’n gweithio orau a sut mae eisoes yn cefnogi pobl mewn cymunedau lleol i fyw eu bywydau.

Mae gwasanaethau eiriolaeth yno i gefnogi dinasyddion gydag ystod eang o broblemau, yn cynnwys cyfranogi mewn prosesau gwasanaethau cymdeithasol. Mae eiriolwyr yn sicrhau y caiff barn, dymuniadau a theimladau unigolion eu clywed a’u hystyried – gan felly roi mwy o lais, dewis a rheolaeth iddynt yn y broses benderfynu.

Yng Ngwent rydym wedi cydweithio i ddatblygu strategaeth eiriolaeth oedolion Gwent. Bu comisiynwyr awdurdodau lleol, sefydliadau eiriolaeth a dinasyddion lleol yn cydweithio i ddatblygu strategaeth comisiynu ranbarthol ar gyfer eiriolaeth, y tro cyntaf i strategaeth comisiynu ranbarthol gael ei datblygu yn y ffordd hon yng Nghymru.

Nod y strategaeth yw sicrhau fod gan bawb sy’n byw yng Ngwent fynediad cyfartal i gymorth eiriolaeth a bod pob sefydliad eiriolaeth yn cefnogi dinasyddion yn effeithlon – tra hefyd yn codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o eiriolaeth ymysg y cyhoedd yn ehangach.

Gyda chyllid grant drwy’r Gronfa Gofal Integredig, datblygwyd llinell gymorth Mynediad i Eiriolaeth Gwent (GATA) wrth ochr ein strategaeth eiriolaeth i roi mynediad i eiriolaeth ar gyfer dinasyddion a gweithwyr gofal proffesiynol ar draws y rhanbarth. Mae cynghorwyr wedi eu hyfforddi’n llawn ar gael i roi gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth a gwneud atgyfeiriadau i wasanaethau eiriolaeth oedolion ar draws y rhanbarth.

Mae’r llinell gymorth ar gael rhwng 10am-1pm ar ddyddiau Llun i Gwener ar 0808 8010566.

Dywedodd Phil Robson, Cadeirydd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent:

“Mae gwneud yn siŵr y gall ein holl ddinasyddion sicrhau y caiff eu lleisiau eu clywed yn hollbwysig os ydym i wirioneddol drawsnewid a gwella ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i fod yn addas ar gyfer y 21ain ganrif. Gwyddom y gall  y system gofal fod yn or-gymhleth ac nad yw bob amser yn rhwydd i ddinasyddion ganfod a chael mynediad i’r wybodaeth a’r gefnogaeth a all eu helpu orau. Mae gan eiriolaeth ran bwysig i’w chwarae i wneud yn siŵr y caiff ein holl leisiau eu clywed – a sylweddolwn fod hyn yn wasanaeth pwysig sydd angen iddo fod ar gael yn gyfartal, ble  a phan mae ei angen”.

Mae mwy o wybodaeth am gefnogaeth eiriolaeth ar gael ar wefan Mynediad i Eiriolaeth Gwent:
https://www.gata.cymru

I ganfod mwy am eiriolaeth ac ymuno â’r sgwrs, dilynwch Ymgyrch Ymwybyddiaeth Eiriolaeth 2021 ar draws y cyfryngau cymdeithasol yn defnyddio hashnodau:

#AAW21
#HearMyVoice
#AdvocacyinPractice