Wythnos Twristiaeth Cymru 2023 - Ymwelwyr yn heidio i'r dref lle dechreuodd y gwasanaeth iechyd gwladol 75 mlynedd yn ôl

Daeth gwleidyddion ynghyd i ddathlu Wythnnos Twristiaeth Cymru a chlywed o lygad y ffynnon gan fusnesau mewn tref fach yng Nghymru lle dechreuodd y GIG 75 mlynedd yn ôl. Cyfarfu Nick Smith AS, Alun Davies AS a’r Cyng John Morgan, aelod Cabinet Lle ac Adfywio gyda rheolwyr Tŷ a Pharc Bedwellte, Canolfan Treftadaeth Cymdeithas Cymorth Meddygol Gweithwyr Tredegar a’r Tredegar Arms i ymchwilio beth sydd ar gael i ymwelwyr yn edrych am hanes y GIG.

Roedd Aneurin Bevan yn löwr oedd yn mwynhau cysur yr hyn a gynigiai’r gymdeithas cymorth feddygol leol i’w haelodau. Ysgrifennydd y gymdeithas oedd Walter Conwy oedd hefyd yn fentor i Bevan ac yn gyd-aelod o’r ‘Query Club’ lleol, cymdeithas drafod radical yn y dref. Dyma lle y mireiniodd Aneurin Bevan ei sgiliau dadlau gan dyfu ei ddeallusrwydd a llywio’r egwyddorion a arweiniodd at ffurfio gwasanaeth iechyd, yn rhad ac am ddim ar y man angen i bawb yn y Deyrnas Unedig.

Dywedodd Nick Smith AS, "Mae’n wych bod yma yn y Cylch yn Nhredegar ar gyfer Wythnos Twristiaeth Cymru 2023. Roedd yn hyfryd cael blas o fod tu ôl i’r bar yn Tredegar Arms a chael fy nysgu gan Abby Fleet ac mae mor wahanol i pan oeddwn yma fel llanc. Mae’n drawsnewidiad gwych ac mae’r bar chwaraeon a’r ardal awyr agored yn neilltuol yn rhagorol. Mae gan fusnesau lletygarwch lleol ran mor bwysig

Roeddwn wrth fy modd yn ymweld â Chanolfan Treftadaeth Cymdeithas Cymorth Meddygol Gweithwyr Tredegar gyda Kevin a Jay, yn arbennig yr holl eitemau a ffilmiau. Cefais fy atgoffa o Feddygfa Ganolog fy mhlentyndod. Mae’r cyfeiriad at Nye Bevan yn ‘Tredegareiddio’ yr holl wlad yn rhagorol, yma ym Mlaenau Gwent rydym yn wirioneddol yn sefyll ar ysgwyddau cewri."

Ychwanegodd Alun Daives, "Mae gennym bob hawl i fod yn falch o fan geni GIG Nye Bevan ac mae Wythnos Twristiaeth Cymru yn gyfle gwych i arddangos peth o waith y sector twristiaeth yn lleol i adeiladu ar y dreftadaeth honno.

‘Roeddwn wrth fy modd yn ymweld â Chanolfan Treftadaeth Cymdeithas Cymorth Meddygol Gweithwyr Tredegar eto a dathlu Aneurin Bevan drwy fynd am dro ar hyd llwybr hardd Aneurin Bevan a dod i ben gydag ymweliad i Barc Bedwellte.

‘Yn ogystal â bod â rhan bwysig mewn cadw ein treftadaeth, mae’r sector twristiaeth ym Mlaenau Gwent yn rhan allweddol o sicrhau twf economaidd felly roedd yn wych cwrdd gyda busnesau twristiaeht lleol i glywed am eu gwaith a’u cynlluniau ar gyfer y dyfodol a sut y gallwn barhau i gydweithio i sicrhau sector twristiaeth cryf ar draws ein bwrdeistref."

Dywedodd y Cyng John Morgan, Aelod Cabinet Lle ac Adfywio, "Mae gennym dreftadaeth falch yma yn ein cymunedau a hanes o sefyll lan dros y rhai mewn angen. Mae’r GIG wedi ei gerfio ar ein calonnau a rydym eisiau defnyddio ei benblwydd yn 75 oed i wahodd ymwelwyr i ddod a gweld lle dechreuodd y cyfan. Mae cymaint i’w weld a’i wneud p’un ai’n ymweld â chanolfannau trefadaeth ac amgueddfeydd, llwybrau cerdded, gwrando ar ffilmiau, darllen a dysgu am ei wreiddiau. Gallwch aros mewn gwestai cyfeillgar gyda gwelyau cyfforddus, mwynhau bwyd blasus yn ein bwytai clyd neu godi gwydr i’r GIG yn ein bariau croesawgar. Dylech yn wirioneddol wneud 2023 y flwyddyn i ymweld â Blaenau Gwent.’

Mae Wythnos Twristiaeth Cymru yn gyfle i safleoedd twristiaeth ar draws Cymru i godi ymwybyddiaeth o’r sector ac arddangos ansawdd cynnig twristiaeth Cymru i ymwelwyr o fewn Prydain a hefyd o wledydd tramor. Cynhaliwyd Wythnos Twristiaeth Cymru rhwng 15 Mai a 21 Mai 2023.

 
O’r chwith i’r dde: Kevin Phillips,TWMASHC*, Nick Smith, AS a Jay Sweeny, TWMASHC* - yng *Nghanolfan Treftadaeth Cymdeithas Cymorth Meddygol Tredegar, Y Cylch, Tredegar.   O’r chwith i’r dde: Y Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet Lle ac Adfywio ac Alun Davies AS wrth blac Aneurin Bevan yng nghanol Y Cylch, Tredegar.