Treialu dosbarth trochi 5G yng Nglynebwy

Gallai technoleg newydd fel 5G helpu i ddarparu cyfleoedd newydd ar gyfer addysg yng Nghymru, yn ôl treial newydd a lansiwyd heddiw (10 Mawrth).

Datgloi 5G Cymru yw’r prosiect arloesi sydd y tu ôl i’r dosbarth trochi 360 gradd newydd yng Nglynebwy – dim ond un treial ymhlith llawer sy’n dangos sut y gall technoleg hynod gyflym fel 5G drawsnewid cymunedau gwledig, o bweru datblygiadau technolegol arloesol mewn amaethyddiaeth, i wella trafnidiaeth ac addysg wledig a chryfhau’r diwydiant twristiaeth. 

Gan ddefnyddio rhwydwaith 5G lleol gan bartneriaid y prosiect, BT, mae’r ystafell ddosbarth yn defnyddio’r cysylltedd cyflym i gynnwys fideo ysbrydoledig ac addysgol ar bob un o’r pedair wal mewn fformat 360 gradd, gan ddarparu profiad trochi.

Gellir cyflwyno gwersi ar draws amrywiaeth o themâu sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm – mynd â phlant a phobl ifanc ar daith wrth iddynt ‘blymio’ i fanylion cell planhigion neu archwilio wyneb planed.

Yn fwy na hynny, nid yw’r profiad wedi’i gyfyngu i’r disgyblion sy’n defnyddio’r Dosbarth Trochi yn unig. Diolch i’r cysylltiad 5G hynod gyflym, mae cysylltiadau byw hefyd wedi’u sefydlu – gan ganiatáu i ddysgwyr ddarganfod hanes diddorol safleoedd treftadaeth fel Castell Rhaglan, gyda thaith rithwir fyw gan un o geidwaid Cadw ar y safle. 

Gellir hefyd ddefnyddio’r cysylltiadau byw, gan ddefnyddio technoleg Cisco, i gysylltu ystafelloedd dosbarth ledled y wlad – sy’n golygu y gall disgyblion gydweithio â dysgwyr eraill, a gall addysgwyr wella eu gwersi eu hunain mewn partneriaeth ag ysgolion eraill.

Dywedodd Jeremy Miles AS, y Gweinidog Addysg a’r Gymraeg:

“Mae’n wych gweld dysgwyr yng Nglynebwy yn elwa o dechnoleg y genhedlaeth nesaf, diolch i’r prosiect arloesol hwn.

“Ein huchelgais yw gweld Cymru’n arwain y ffordd o ran defnyddio technoleg ddigidol i ddarparu addysg o ansawdd uchel, ac i godi cyrhaeddiad a sgiliau pob dysgwr, waeth beth fo’u cefndir. Bydd y treial hwn yn helpu dysgwyr mewn ardaloedd gwledig i ymgysylltu â’r cwricwlwm mewn amgylchedd cyffrous, ymdrochol.”

Dywedodd Nick Speed, Cyfarwyddwr Grŵp BT yng Nghymru:

“Rydyn ni’n gyffrous i fod yn rhan o’r prosiect arloesol hwn sy’n edrych ar botensial 5G mewn ardaloedd gwledig.

“Mae’r dosbarth trochi yn enghraifft wych o sut y gall lled band ehangach 5G helpu i ddarparu cynnwys cyfoethog o ansawdd uchel i ysbrydoli disgyblion ysgol am y byd, ble bynnag y maen nhw. Mae ganddo’r potensial i leihau’r bwlch addysg rhwng ardaloedd a sicrhau bod pob disgybl yn gallu manteisio ar y math hwn o ddeunydd dysgu arloesol.”

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd y Cynghorydd Joanne Collins, yr Aelod Gweithredol dros Addysg, a’r Cynghorydd Dai Davies, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Gweithredol dros Adfywio a Datblygu Economaidd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent:

“Mae’n newyddion gwych bod Glynebwy yn mynd i gynnal yr amgylchedd 5G ymdrochol. Mae’n siŵr y bydd ein pobl ifanc yn elwa o’r ffordd gyffrous a rhyngweithiol hon o ddysgu. Dyma ddyfodol dysgu a bydd yn helpu athrawon i fynd ymhell y tu hwnt i ddulliau addysgu traddodiadol gan ddefnyddio technoleg 5G.
Bydd yr ystafell ddosbarth hefyd yn cefnogi cyfleoedd dysgu a hyfforddi ehangach i ddatblygu sgiliau arbenigol y gellir eu trosglwyddo i’r byd proffesiynol ehangach. Bydd y sgiliau hyn yn amhrisiadwy ar gyfer swyddi’r dyfodol.”

Dywedodd Peter Shearman, Pennaeth Arloesi Cisco UKI:

“Credwn mewn dyfodol cynhwysol i bawb. Mae hyn yn arbennig o bwysig ym maes addysg, lle mae technoleg ddigidol wedi dod yn rhan mor bwysig o addysgu a dysgu.

“Mae Cisco yn falch iawn o fod wedi buddsoddi yn y platfform cydweithio ar gyfer yr ysgolion hyn yn y cymoedd a’r ardaloedd gwledig yn y de fel rhan o brosiect Datgloi 5G Cymru.”

I gael rhagor o wybodaeth am y Dosbarth Trochi, ewch i blaenau-gwent.gov.uk/

Mae Datgloi 5G Cymru yn bosibl diolch i gyllid gan Raglen Cymoedd Technoleg Llywodraeth Cymru a’r Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.