Trefniadau Gwyliau Banc ar gyfer Coroni Brenin Charles III

Gwasanaethau Cwsmeriaid

Bydd C2BG (Canolfan Gyswllt y Cyngor) yn cau am 5pm ddydd Gwener 5 Mai 2023, ac yn ailagor am 8am ddydd Mawrth 9 Mai 2023.

Gellir cysylltu â’r gwasanaeth Argyfwng allan-o-oriau ar y rhif arferol 01495 311556 yn ystod y cyfnod hwn.

Bydd gwasanaeth Piper Alarm hefyd yn parhau i weithredu. Dylid cyfeirio ymholiadau am larymau Piper Lifeline tu allan i oriau swyddfa at

0845 056 8035.     

 

Tîm Dyletswydd Gwasanaethau Cymdeithasol

Bydd Swyddfa’r Tîm Dyletswydd ar gau rhwng 5pm ddydd Gwener 5 Mai 2023 ac yn ailagor am 9am ddydd Mawrth 9 Mai 2023.

Yn ystod cyfnod Gŵyl y Banc cysylltwch â’r Tîm Dyletswydd Argyfwng Gwasanaethau Cymdeithasol ar 0800 328 44 32.

Taliadau a Budd-daliadau

Os dymunwch wneud taliad mae llinell talu awtomatig 24 awr ar gael ar 0845 604 2635 neu gallwch dalu ar ein gwefan - https://www.blaenau-gwent.gov.uk/cy/hafan/

 

Gwastraff ac Ailgylchu

Bydd gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu, yn cynnwys casgliadau cewynnau/hylendid a gwastraff gwyrdd yn parhau yn unol â’r arfer. Rhowch eich gwastraff ac ailgylchu allan i’w gasglu erbyn 7am ar ddyddiad y casglu. Gofynnir i chi dorri unrhyw eitemau cardfwrdd mawr yn ddarnau llai cyn eu casglu.

Bydd Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu Cartrefi yn agor yr un fath ag arfer.

 

Gwasanaeth Cofrestru

Ni fydd y gwasanaeth cofrestru ar gael ddydd Llun 8 Mai 2023. Bydd y gwasanaeth yn ailddechrau ddydd Mawrth 9 Mai 2023 drwy apwyntiad yn unig

 

Hybiau Cymunedol

Bydd Hybiau Cymunedol mewn llyfrgelloedd canol tref yn cau am 5pm ddydd Gwener 5 Mai 2023 ac yn ailagor yr un fath ag arfer am 9am ddydd Mawrth 9 Mai 2023 - https://www.blaenau-gwent.gov.uk/cy/preswylwyr/hybiau-cymunedol-blaenau-gwent/