Gwasanaethau Cwsmeriaid
Bydd Canolfan Gyswllt (C2BG) a Hybiau Cymunedol y Cyngor yn cau am 12.30pm ddydd Gwener 23 Rhagfyr ac yn ail-agor fel arfer ddydd Mawrth 3 Ionawr 2023.
Gellir cysylltu â’r gwasanaeth argyfwng allan-o-oriau ar y rhif arferol o 01495 311556 yn ystod y cyfnod hwn.
Tîm Dyletswydd Gwasanaethau Cymdeithasol
Bydd Tîm Atgyfeirio Dyletswydd ar gael tan 12.30pm ddydd Gwener 23 Rhagfyr a tan 5pm ar 29 a 30 Rhagfyr. Ar bob amser arall gellir cysylltu â’r Tîm Atgyfeirio Dyletswydd Argyfwng ar 0800 328 4432. Bydd y Tîm yn ôl ar gael ar yr oriau arferol o ddydd Mawrth 3 Ionawr 2023.
Bydd gwasanaeth monitro galwadau'r larymau achub yn parhau i weithredu fel arfer.
Fodd bynnag, o 12.30y.p. ddydd Gwener 23 Rhagfyr 2022 – 9y.b. ddydd Mawrth 3 Ionawr 2023, cysylltwch â’r Grŵp Tai Cymunedol arno 0300 003 5367 am unrhyw waith cynnal a chadw/atgyweirio brys mewn perthynas â larymau achubiaeth/offer technoleg gynorthwyol.
Taliadau
Os dymunwch wneud taliad, mae llinell dalu awtomatig 24-awr ar gael ar 0845 604 2635 neu gellir gwneud taliadau drwy ein gwefan - https://www.blaenau-gwent.gov.uk/cy/cartref/
Gwastraff ac Ailgylchu
Bydd casgliadau ailgylchu a sbwriel un diwrnod yn ddiweddarach dros gyfnod y Nadolig.
Caiff sachau Cewynnau a Hylendid eu casglu o’r man casglu arferol ddydd Gwener 23 Rhagfyr 2022 a dydd Sadwrn 31 Rhagfyr 2022.
Bydd casgliadau’n dychwelyd i’r arfer ddydd Llun 2 Ionawr 2023.
Bydd Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu Cartrefi ar agor yn ystod cyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn newydd rhwng 9am a 5.30pm. Mae safle Roseheyworth ar gau bob dydd Mawrth a safle New Vale ar gau bob dydd Iau. Bydd y ddau safle ar gau ar Ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a dydd Calan.
Mwy o wybodaeth – https://www.blaenau-gwent.gov.uk/en/news/recycling-and-refuse-collections-christmas-arrangements-2022-2023/
Gwasanaeth Cofrestru
Ni fydd y gwasanaeth Cofrestru ar gael dros gyfnod y Nadolig, heblaw am Gofrestru marwolaethau yn unig ddydd Iau 29 Rhagfyr a dydd Gwener 30 Rhagfyr, rhwng 10am a 2pm. Cofrestru marwolaethau drwy apwyntiad yn unig. Ar agor o ddydd Mawrth 3 Ionawr 2023, oriau gwaith arferol.