Siop ysgol Big Bocs Bwyd yn dod i Lynebwy

Cafodd y cynllun ‘Big Bocs Bwyd’ cyntaf ym Mlaenau Gwent ei lansio’n swyddogol yn Ysgol Gynradd Trehelyg ym Mlaenau Gwent heddiw.

Mae’r cynllun, cynhwysydd llong a gafodd ei addasu a’i droi’n siop ysgol, yn golygu y bydd eitemau bwyd ar gael i i blant a theuluoedd yn yr ysgol a dim ond yr hyn y gallant fforddio y gofynnir iddynt ei dalu. Cânt hefyd eu cefnogi gyda phrofiadau dysgu ymarferol drwy dyfu a choginio bwyd.

Gall cynlluniau fel Big Bocs Bwyd fod yn gymorth mawr i deuluoedd sy’n cael trafferthion a’r rhai sydd wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd fel canlyniad i’r argyfwng costau byw ym Mhrydain.

Mae’r ysgol a Chyngor Blaenau Gwent wedi cydweithio’n agos i sefydlu’r Big Bocs Bwyd. Cafodd y cynllun ei lansio’n swyddogol heddiw gan y Cyng Chris Smith, Aelod Llywyddol Cyngor Blaenau Gwent, yng nghwmni gwesteion a disgyblion.

Mae’r ysgol wedi cefnogi teuluoedd yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf drwy sefydlu banc bwyd yn yr ysgol, ac maent yn gweld hyn fel y cam nesaf.

Dywedodd Mel Evans, Pennaeth yr Ysgol:

“Rydym wrth ein bodd i fod wedi gwneud cais llwyddiannus ar gyfer cynnal Big Bocs Bwyd yn ein hysgol. Gwelwn hyn fel cyfle i adeiladu ar fanc bwyd yr ysgol a hefyd i ddatblygu a dod yn gyfleuster pwrpasol ar gyfer ein hysgol ac yn wir aelodau cymuned Trehelyg a Glynebwy.

“Daw’r Big Bocs Bwyd yn rhan ganolog o’n cwricwlwm YSBRYDOLI yma yn Nhrehelyg, lle bydd plant yn dysgu am gylchoedd bwyd, llythrennedd bwyd, gwastraff bwyd ac yn wir am gynaliadwyedd. Bydd pob dosbarth yn gyfrifol am dyfu cynnyrch yn ein gardd ysgol a bydd pob dosbarth hefyd yn cymryd rhan wrth redeg a threfnu ein siop.

“Mae’r prosiect hefyd yn cynnwys y Cwricwlwm i Gymru a’r 4 Diben: Unigolion Iach a Hyderus; Dinasyddion Egwyddorol a Gwybodus; Dysgwyr Uchelgeisiol a Galluog; Cyfranwyr Mentrus a Chreadigol.

“Diolch i bawb ym Mlaenau Gwent sydd wedi cefnogi’r prosiect, ynghyd â diolch enfawr i dîm staff Big Bocs Bwyd a rhieni sy’n gwirfoddoli. Mae ein Llysgenhadon Ifanc a Mrs Dobbs (Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd) wedi gweithio’n ddiflino i baratoi ar gyfer ein diwrnod agoriadol.

“Edrychwn ymlaen at rannu taith Big Bocs Bwyd gyda chi, a gobeithiwn y byddwch yn ein cefnogi wrth i ni ffynnu a thyfu.”

Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Gweithrediaeth Pobl ac Addysg Cyngor Blaenau Gwent:

“Mae hwn yn gynllun gwych a allai fod yn rhaff fywyd i lawer o deuluoedd lleol yn yr hinsawdd ariannol presennol sy’n gorfod gwneud dewisiadau anodd am gyllid eu haelwydydd a’u ffordd o fyw. Ni ddylai unrhyw blentyn fod yn newynog, ac mae cynlluniau fel hyn yn golygu y gall teuluoedd baratoi prydau da a maethlon o fwyd. Bydd hefyd yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth maent ei hangen i wneud dewisiadau gwybodus am fwyd iach drwy gydol eu bywyd.

“Mae’r argyfwng costau byw yn brif flaenoriaeth i’r Cyngor a gwnawn bopeth yn ein gallu i gefnogi ein cymunedau ar yr amser hwn. Mae ein hysgolion ar y talcen caled pan ddaw i weld effaith tlodi ar ein plant a phobl ifanc a sut y gall effeithio ar eu dysgu, a gwn eu bod yn gwneud popeth a fedrant drwy weithio gyda phartneriaid i roi cefnogaeth.

“Diolch i bawb sydd wedi bod yn gysylltiedig â sicrhau’r cynllun hwn i Drehelyg.”

Dywedodd Sian Barrett, Cadeirydd y Llywodraethwyr:

“Yn ystod y cyfnod clo fe welsom fod llawer o’n teuluoedd angen parseli bwyd ac fe wnaeth ein staff cymorth ein helpu i’w dosbarthu. Gwelsom fod helpu ein cymuned yn y ffordd yma wedi’n helpu i ddatblygu mwy ar ein cysylltiadau cryf gyda’r gymuned. Yna clywsom am y cynllun hwn gan Lywodraeth Cymru sy’n helpu i ddarparu bwyd fforddiadwy i deuluoedd ac yn dysgu plant i fyw bywyd mwy cynaliadwy.

“Caiff y siop ei stocio’n rheolaidd yn defnyddio bwyd dros ben gan Fareshare Cymru, sy’n gweithio gydag archfarchnadoedd lleol, a bydd yn gweithio ar sail ‘talu faint fedrwch chi’. Po fwyaf o fwyd a werthwn, y llai fydd yn mynd i domen lanw gan wneud ein pwt i helpu’r amgylchedd. B

ydd ein plant yn helpu yn y siop a hefyd yn tyfu llysiau ac yn cael gwersi coginio fel rhan o’r prosiect.

“Mae gennym grŵp gwych o wirfoddolwyr yn gweithio gyda’n staff fydd yn cefnogi’r prosiect.”

Mae mwy o wybodaeth am Big Bocs Bwyd ar gael yma - https://www.bigbocsbwyd.co.uk/