Rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer Ysgol Gynradd Gymraeg newydd yn Nhredegar

Rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer Ysgol Gynradd Gymraeg newydd, fydd yn cynnwys darpariaeth gofal plant, yn Chartist Way, Tredegar.

Mae’r ysgol ‘egin’ 210 lle yn rhan o ymrwymiad parhaus y Cyngor i gynyddu cyfleoedd addysg Gymraeg yn y Fwrdeistref Sirol.

Caiff yr ysgol ei datblygu yn unol â safonau a amlinellir yn rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru. Sicrhaodd y Cyngor £10.4 miliwn o gyllid cyfalaf drwy gynlluniau Grant Cyfalaf Cyfrwng Cymraeg a Grant Cyfalaf Gofal Plant Llywodraeth Cymru i symud ymlaen gydag adeiladu’r ysgol.

Bydd yr ysgol yn galluogi’r Cyngor i ateb y galw cynyddol am leoedd gofal plant ac addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal. Bydd safle’r ysgol hefyd yn cynnwys ardal gemau aml-ddefnydd, ardal chwarae coedwig, perllan a dolydd blodau gwyllt. Bydd yr ysgol hefyd yn ymwybodol o hinsawdd gyda phaneli solar a mannau gwefru cerbydau trydan.

Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Gweithredol Pobl ac Addysg y Cyngor:

“Rwy’n falch fod y pwyllgor cynllunio wedi cefnogi ein cynllun i adeiladu ysgol Gymraeg newydd drwy roi caniatâd cynllunio. Mae gennym ymrwymiad cryf i hyrwyddo twf y Gymraeg yn unol â gweledigaeth gyffrous Llywodraeth Cymru a rydym yn gweithio i ddarparu mwy o gyfleoedd yn y Fwrdeistref Sirol ar gyfer rhieni a gofalwyr sy’n dymuno cael addysg Gymraeg i’w plant.”

Bydd yr ysgol newydd yn dechrau fel ‘darpariaeth egin’ gyda dosbarthiadau meithrin a derbyn ac yn tyfu i gynnwys darpariaeth ar gyfer pob oed erbyn 2029.