Prosiect Hwyluso ac Arweinydd Tîm STEM Blaenau Gwent ar restr fer Gwobrau STEM Cymru 2022

Mae Gwobrau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) 2022 yn dathlu busnesau ac unigolion am eu hymroddiad tuag at wneud gwahaniaeth, hyrwyddo a chodi uchelgais STEM yng Nghymru.

Eleni mae gan Flaenau Gwent ddau yn rowndiau terfynol y gwobrau pwysig hyn. Mae Prosiect Hwyluso STEM yng nghategori Rhaglen Addysgol y Flwyddyn (Cyhoeddus) STEM ac mae Louise Juliff, Arweinydd y Tîm, yng nghategori Menyw y Flwyddyn STEM sy’n cydnabod menywod sy’n ysbrydoli a’u gwaith fel llysgenhadon o fewn diwydiant STEM.

Mae Prosiect Hwyluso STEM Blaenau Gwent wrth ei fodd i fod ar y rhestr fer ymysg y 34 cwmni arloesol a enwyd yn y rownd derfynol yn y gwobrau eleni. Ymhellach, mae Louise - Arweinydd Tîm Hwyluso STEM, Cyngor Blaenau Gwent - yn falch iawn i gael ei henwebu yn ei chategori a dywedodd: “Rydym yn hynod falch y cafodd y cynllun ei gydnabod. Mae cymaint o alw am sgiliau STEM, gyda llawer o sectorau yn adrodd prinder staff, felly drwy hwyluso ymweliadau gan fodelau rôl ysbrydoledig i ddysgwyr o bob oed, gobeithiwn y byddwn yn helpu i greu llif o dalent yn y maes”.

Cynhelir y seremoni Wobrwyo yng Ngwesty Mercure Cardiff Holland House ar 27 Hydref 2022. Caiff pawb sydd yn y rowndiau terfynol mewn 12 categori eu hystyried gan banel o feirniaid sy’n arwain y diwydiant, gyda’r enillwyr yn cael eu cyhoeddi drwy gydol y noswaith.

Categori Rhestr Fer

Rownd Derfynol

Rhaglen Addysgol y Flwyddyn (Cyhoeddus) STEM

Noddir gan Addysgwyr Cymru

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
  • Rhaglen MSc mewn Biowybodeg (Prifysgol Caerdydd)
  • Cynllun Gwyddoniaeth i Ysgolion Prifysgol Abertawe
  • Gwersylloedd Techno
  • Canolfan Arbenigedd Ffotoneg
  • Prifysgol De Cymru

 

 

Menyw y Flwyddyn STEM

Noddir gan Fanc Datblygu Cymru

  • Louise Juliff (Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
  • Hannah Mance (Pontus Research Cyf)
  • Tracey Thomas (Simbec-Orion Group Cyf)
  • Sharon Johnstone (Prifysgol De Cymru)