Mae Cabinet Cyngor Sir Blaenau Gwent wedi cytuno i gynnal ymarfer ymgynghori i ofyn am eich barn am godi premiwm y dreth gyngor ar eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi yn y sir.
Mae'r rhestr aros am dai ar draws Blaenau Gwent yn sylweddol ac mae'r Cyngor hefyd yn profi lefelau uchel o ddigartrefedd sy'n gofyn am ddarparu llety brys costus tymor byr.
Er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r materion hyn, mae Strategaeth Eiddo Gwag y Cyngor yn anelu at ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd drwy ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael ar gyfer mynd i'r afael â phroblem eiddo gwag, a sicrhau, lle nodir eiddo gwag, y gwneir pob ymdrech i'w hadnewyddu i safon dda.
O dan adran 12A a 12B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, o 1 Ebrill 2023 ymlaen, mae gan y Cyngor bwerau dewisol sy’n caniatáu codi premiymau o hyd at 300% ar yr eiddo hyn.
Yn dibynnu ar ganlyniad yr ymarfer ymgynghori efallai y bydd y Cyngor yn ystyried cyflwyno premiymau ar gyfer y dosbarthiadau hyn o eiddo yn y dyfodol.
Bydd yr ymarfer ymgynghori yn rhedeg tan 30 Medi 2023.
Gallwch gael mynediad i'r arolwg yma: