Newidiadau i Ganolfannau Ailgylchu Blaenau Gwent – dim angen archebu ymlaen llaw yn Roseheyworth o hyn ymlaen

Bydd Cyngor Blaenau Gwent yn newid i system dim archebu ar gyfer ei Ganolfan Gwastraff ac Ailgylchu Cartrefi (HWRC) yn Roseheyworth, Abertyleri.

Bydd y Ganolfan Ailgylchu yn New Vale, Glynebwy, yn parhau ar gyfer apwyntiadau yn unig.

Mae’r penderfyniad yn rhoi dewis i breswylwyr rhwng trefnu apwyntiad ymlaen llaw neu droi lan i gael gwared â’u gwastraff/nwyddau ailgylchu. Gwnaed y symud gwreiddiol i system archebu fel canlyniad i bandemig Covid-19, wrth i’r Cyngor fynd ati i gyfyngu’r nifer ar y safle er mwyn cadw preswylwyr a staff yn ddiogel. Fodd bynnag, dywedodd llawer o breswylwyr iddynt gael y system archebu yn rhwyddach ac yn golygu llai o amser yn y safle.

Blaenau Gwent Waste & Recycling

Dywedodd y Cynghorydd Joanna Wilkins, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd ar Gyngor Blaenau Gwent:

“Rydym eisiau i holl wasanaethau’r Cyngor fod mor gyfleus ac mor rhwydd i’w defnyddio ag sydd modd. Rydym bob amser yn ymdrechu i roi ystyriaeth i farn ein preswylwyr ar y gwasanaethau sy’n bwysig iddynt ac felly rydym wedi penderfynu treialu system ‘hybrid’ ar gyfer defnyddio ein canolfannau ailgylchu. Dangosodd adborth fod gwahaniaeth barn ymysg preswylwyr am gael system apwyntiadau, gan brofi fod gan y ddau eu manteision, felly gwnaethom benderfyniad i dreialu’r opsiwn hwn.

“Cafodd y safle yn Roseheyworth ei gynllunio i ymdopi gyda mwy o draffig felly dyma pam ein bod yn dileu’r system archebu yno. Mae’n galluogi pobl i alw heibio siop ailddefnyddio Y Den ar y safle. Mae angen i bawb  ohonom feddwl am ailddefnyddio a helpu’r amgylchedd ac mae’n werth chweil ymweld â’r siop.”

Mae Y Den yn gwerthu eitemau a gafodd eu hachub gan staff a gwirfoddolwyr yn y Ganolfan Ailgylchu rhag cael eu taflu. Gellir hefyd gyfrannu eitemau i’r siop. Mae staff a gwirfoddolwyr yn gwirio i sicrhau fod yr eitemau yn ddiogel ac yn gweithio’n iawn – cyn eu glanhau’n drwyadl a’u rhoi ar werth. O lyfrau i deganau, beiciau, llestri, addurniadau, DVD, celfi bach a llawer mwy.

I gael mwy o wybodaeth ac oriau agor ewch i – CBS Blaenau Gwent: Siop Ailddefnyddio Y Den yn awr ar agor(blaenau-gwent.gov.uk)

Daw’r trefniadau newydd i rym ddydd Mercher 16 Mawrth 2022. I gael mwy o wybodaeth am y canolfannau ailgylchu ac i archebu ar gyfer New Vale ewch i – CBS Blaenau Gwent: Ymweld â Chanolfan Ailgylchu (blaenau-gwent.gov.uk)

Dim ond preswylwyr Blaenau Gwent all ddefnyddio’r Canolfannau Ailgylchu. Gellir gofyn i chi am brawf o’ch cyfeiriad pan fynychwch.