Jordan – o Brentis i enillydd Gwobr Cyllid a chyflogaeth lawn-amser

Yn ôl yn 2018 penderfynodd Jordan Harley ymuno â rhaglen Prentisiaeth gydag Anelu’n Uchel Blaenau Gwent a dyw e ddim wedi edrych yn ôl ers hynny. Bryd hynny roedd Jordan wedi cwblhau gradd Sylfaen ac yn astudio gradd Busnes mewn prifysgol, ond sylweddolodd fanteision cael profiad gwaith ymarferol a phenderfynodd ddechrau ar brentisiaeth, oedd yn cynnig ffordd i ddysgu ac ennill bywoliaeth yr un pryd.

Tra’r oedd yn gweithio ac yn astudio fel prentis gyda Datblygu Gweithlu Blaenau Gwent a Chaerffili, daeth yn gynyddol glir i Jordan fod cyllid yn faes y dymunai ganolbwyntio arno. Enillodd wobr Prentis y Flwyddyn ar ôl gorffen ei gymhwyster ILM a’i radd. Yn fuan wedyn cynigodd Anelu’n Uchel Blaenau Gwent gyfle pellach iddo ddechrau ar ail brentisiaeth oedd yn cysylltu’n uniongyrchol gyda’i uchelgais gyrfa. Dechreuodd Jordan yn fuan ar ei rôl newydd fel Hyfforddai Cyfrifeg yn Adran Cyfrifon Taladwy Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent. Yn y swydd hon gallodd ddysgu yn gyflym gan staff profiadol a gweithwyr proffesiynol cyllid.

Dywedodd Jordan:
“Byddwn yn dweud wrth unrhyw un sydd â diddordeb mewn prentisiaeth – ewch amdani! Yn ogystal â rhoi’r profiad ymarferol mae pob cyflogwr eisiau ei weld ar CV ymgeisydd, mae hefyd wedi rhoi’r wybodaeth a sgiliau i ffynnu mewn unrhyw amgylchedd.”

Ar ôl gorffen ei gymhwyster Lefel 3 Cymdeithas Technegwyr Cyfrifeg (AAT) gyda sgôr cyfartalog o 94%, cafodd Jordan ei enwebu gan Anelu’n Uchaf ar gyfer Gwobrau Cyllid Cymru 2021 yn y categori Technegydd Cyfrifon. Nid yn unig y cyrhaeddodd y rownd derfynol ond aeth ymlaen i ennill y wobr bwysig hon.

Llwyddodd Jordan i sicrhau cyfle secondiad o fewn yr Adran Cyllid a gyda gyrfa mor lwyddiannus hyd yma, dim ond mater o amser oedd hi cyn iddo gael cynnig rôl Swyddog Cyllid gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, ar ôl i’w secondiad ddod i ben ym mis Ebrill 2022. Mae’n sefyllfa fydd angen yr holl sgiliau a phrofiad a ddysgodd Jordan dros y blynyddoedd fel prentis. Bydd ei ddyletswyddau yn cynnwys monitro cyllideb ar gyfer prosiectau grant cyfalaf ar gyfer yr awdurdod a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, monitro Treth ar Werth a thasgau rheoli arian dyddiol a thrysorylys.

Mae hon yn enghraifft ragorol o sut y gall prentisiaeth gynnig llwybr cadarn i’r amgylchedd gwaith, gan roi’r profiad a’r cymwysterau angenrheidiol ar gyfer gyrfa lawn-amser mewn rôl werth-chweil sydd o ddiddordeb i’r unigolyn. Llongyfarchiadau Jordan a’r dymuniadau gorau oll ar gyfer y dyfodol.

Cymwysterau a enillodd Jordan fel prentis

ILM lefel 3

AAT Lefel 2 – Tystysgrif Sylfaen mewn Cyfrifeg
Clod – 93%
Medi 2019 – Medi 2020

AAT Lefel 3 – Diploma Uwch mewn Cyfrifeg
Clod – 94%
Medi 2020 – Gorffennaf 2021

AAT Lefel 4 – Diploma Broffesiynol mewn Cyfrifeg
(astudio ar hyn o bryd)

Os yn llwyddiannus, ei gymhwyster nesaf fydd:
Cymdeithas Cyfrifyddion Siartredig Siartredig (ACCA)

Os oes gennych chi neu unrhyw un yr ydych yn ei adnabod ddiddordeb mewn bod yn brentis neu gyflogi prentis, cysylltwch os gwelwch yn dda ag Anelu’n Uchel ar 01495 355508 neu e-bost sap@blaenau-gwent.gov.uk