Gŵyl Banc Mis Mai 2023

Gŵyl Banc Mis Mai 2023

Gwasanaethau Cwsmeriaid

Bydd C2BG (Canolfan Gyswllt y Cyngor) yn cau am 5pm ddydd Gwener 28 Ebrill 2023 ac yn ail-agor ddydd Mawrth 2 Mai 2023.

Gellir cysylltu â’r gwasanaeth argyfwng tu allan i oriau ar y rhif arferol o 01495 311556 yn ystod y cyfnod hwn.

Bydd gwasanaeth Piper Alarm hefyd yn parhau i weithredu. Dylid cyfeirio ymholiadau am larymau Piper Lifeline tu allan i oriau swyddfa at 0845 056 8035.

 

Tîm Dyletswydd Gwasanaethau Cymdeithasol

Bydd Swyddfa’r Tîm Dyletswydd ar gau o 5pm ddydd Gwener 28 Ebrill 2023 ac yn ail-agor am 9am ddydd Mawrth 2 Mai 2023.

Yn ystod cyfnod Gŵyl y Banc cysylltwch â’r Tîm Dyletswydd Argyfwng ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol ar 0800 328 44 32.

 

Taliadau a Budd-daliadau

Os dymunwch wneud taliad, mae llinell dalu awtomatig 24 awr ar gael ar 0845 604 2635 neu gellir gwneud taliadau drwy ein gwefan -  https://www.blaenau-gwent.gov.uk/en/home/

 

Gwastraff ac Ailgylchu

Bydd gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu, yn cynnwys casgliadau cewynnau/hylendid a gwastraff gwyrdd yn parhau fel y maent fel arfer. Gofynnir i chi roi eich gwastraff ac ailgylchu allan i’w casglu erbyn 7am ar ddyddiad y casgliad. Torrwch unrhyw eitemau cardfwrdd mawr yn ddarnau llai cyn iddynt gael eu casglu os gwelwch yn dda.

Bydd Canolfannau Gwastraff Cartrefi ac Ailgylchu ar agor fel y maent fel arfer.

 

Gwasanaeth Cofrestru

Ni fydd y gwasanaeth cofrestru ar gael ddydd Llun 1 Mai 2023. Bydd y gwasanaeth yn ailddechrau ddydd Mawrth 2 Mai 2023 drwy apwyntiad yn unig.

 

Hybiau Cymunedol

Bydd Hybiau Cymunedol sydd mewn llyfrgelloedd yng nghanol trefi yn cau am 5pm ddydd Gwener 28 Ebrill 2023 ac yn ailagor fel y maent fel arfer arfer am 9am ddydd Mawrth 2 Mai 2023. https://www.blaenau-gwent.gov.uk/en/resident/blaenau-gwent-community-hubs/