Gwahoddiad am Ddatganiadau o Ddiddordeb gan Sefydliadau'r Trydydd Sector ar gyfer 'Panel Goruchwylio a Chynghori Annibynnol ar Gydraddoldeb Hiliol'

Gwahoddiad am Ddatganiadau o Ddiddordeb gan Sefydliadau'r Trydydd Sector

Recriwtio 'Panel Goruchwylio a Chynghori Annibynnol ar Gydraddoldeb Hiliol' i gefnogi gwaith 'Grŵp Cyflawni Cydraddoldeb Hiliol' Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru

Sefydlwyd 'Grŵp Cyflawni Cydraddoldeb Hiliol' Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru yn ddiweddar gan yr holl bartneriaid cyfiawnder troseddol yng Nghymru. Mae'r rhain yn cynnwys yr heddlu, carchardai a'r gwasanaeth prawf, Gwasanaeth Erlyn y Goron, Gwasanaeth y Llysoedd a Thribiwnlysoedd a'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid.  Mae Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn aelodau hefyd.  Nod y Grŵp yw gweithio i wella canlyniadau a lleihau gwahaniaethu hiliol ar gyfer pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y System Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru. Bydd y grŵp hefyd yn gweithio i wella ymwybyddiaeth fewnol o faterion cydraddoldeb hiliol.  Bydd y gwaith yn cael ei gynnal yn bennaf drwy weithredu Cynllun Cyflawni Cydraddoldeb Hiliol y grŵp.

Er mwyn cynnig tawelwch meddwl ac i oruchwylio gwaith y Grŵp, mae'r holl bartneriaid wedi cytuno i sefydlu panel annibynnol i oruchwylio'i gamau gweithredu ac i sicrhau y caiff cynnydd digonol ei wneud yn erbyn y Cynllun Cyflawni.

Mae sefydlu'r Panel Annibynnol hwn yn gam pwysig wrth symud ymlaen i wella cydraddoldeb hiliol yn y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru.  Bwriedir i randdeiliaid uniongyrchol roi barn feirniadol ar y gwaith sy'n cael ei wneud a byddant yn gweithio gyda Chyfiawnder Troseddol yng Nghymru i helpu i fynd i'r afael â gwahaniaethu systemig a'r anfanteision a brofir gan bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y system cyfiawnder troseddol. 

Mae'n bwysig bod y Panel Annibynnol yn cynnwys pobl â'r priodweddau personol, profiad, arbenigedd, gwybodaeth a dealltwriaeth briodol o faterion cydraddoldeb hiliol mewn cyfiawnder troseddol ond eu bod yn annibynnol ar y partneriaid sy'n ymgymryd â'r gwaith.  Mae'r angen hwn am annibyniaeth a gwrthrychedd llwyr yn hollbwysig ac felly mae Grŵp Cyflawni Cydraddoldeb Hiliol Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru yn ceisio comisiynu gwasanaethau partner trydydd sector i benodi'r Panel Annibynnol.

Rydym yn chwilio am Ddatganiadau o Ddiddordeb gan bartneriaid trydydd sector i ddarparu'r gwasanaeth sy'n ofynnol i recriwtio pob aelod o'r panel, gan gynnwys ei Gadeirydd.

Mwy o wybodaeth, manylebau comisiynu ac ffurflen datgan diddordeb.