Fis Cenedlaethol Cerdded #TRY20

Mae’n Fis Cenedlaethol Cerdded ac mae’n annog pawb i geisio cerdded am 20 munud bob dydd drwy gydol y mis. Mae cymaint o fanteision i gerdded ac mae mor rhwydd mynd am dro o’ch carreg drws eich hun.

Mae ymarfer rheolaidd yn lleihau unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol. Mae’n ddull ysgafn o ymarfer cardio sy’n hollol rhad ac am ddim. Mae ganddo lawer o fanteision yn cynnwys helpu i atal risg cyflyrau tebyg i diabetes math 2, clefyd y galon, pwysedd gwaed uchel a rhai mathau o ganser, yn ogystal â chael effaith gadarnhaol ar eich lles meddwl drwy ostwng straen, pryder a hefyd iselder.

Y mis hwn bydd Blaenau Gwent yn cyhoeddi taith gerdded bob dydd fydd yn mynd â chi mas i grwydro yn ein tirwedd hardd. Gallwch wneud rhan neu’r cyfan o’r daith a dysgu rhywbeth am ein treftadaeth heddiw. Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol ar gyfer eich taith gerdded bob dydd.

Dywedodd y Cyng John Morgan, Aelod Cabinet Lle ac Adfywio, ‘rydym yn ffodus i fod yn byw mewn ardal mor hardd, yn llawn treftadaeth a cynnig amrywiaeth o deithiau cerdded sy’n addas i bawb. Mae’r mis hwn o deithiau cerdded yn ymchwilio hen dramffyrdd, parciau hyfryd, llynnoedd tawel ac ardaloedd cymunedol y mae gwirfoddolwyr yn gofalu amdanynt. Mae ymchwilio yr hyn sydd ar garreg eich drws yn dadlennu’r gorffennol wrth i ni agosáu at ben-blwydd y GIG yn 75 oed yn cynnig dyfodol iachach hefyd.’