Gan ei bod wedi rhyngu bodd i Dduw Hollalluog i alw i’w Ofal ein diweddar Sofran, yr Arglwyddes Frenhines Elizabeth yr Ail, o Fendigaid a Gogoneddus Goffadwriaeth, y mae Coron Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, oblegid ei Hymadawiad, wedi dod yn gwbl
ac yn gyfiawn i ran y Tywysog Charles Philip Arthur George:
Yr ydym ninnau, felly, Arglwyddi Ysbrydol a Thymhorol y Deyrnas hon ac Aelodau o Dŷ’r Cyffredin, ynghyd ag aelodau eraill o Gyfrin Gyngor Ei diweddar Fawrhydi, cynrychiolwyr y Teyrnasoedd a’r Tiriogaethau, Henaduriaid a Dinasyddion Llundain, ac eraill, yn awr yn datgan ac yn cyhoeddi drwy hyn yn unllais ac o Galon a Thafod unfryd fod y Tywysog Charles Philip Arthur George, bellach, oblegid Marwolaeth ein diweddar Sofran o Serchus Goffadwriaeth, wedi dod inni yn unig gyfreithlon a chyfiawn Ddyledog Arglwydd Charles y Trydydd, drwy Ras Duw, ar Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon a’i Deyrnasoedd eraill, yn Frenin, yn Ben ar y Gymanwlad, yn Amddiffynnwr y Ffydd, i’r hwn yr ydym yn datgan, ag Anwylserch gostyngedig, ein holl Ffydd a’n Hufudd-dod; gan atolwg ar i Dduw, drwy’r hwn y mae Brenhinoedd a Breninesau yn teyrnasu, fendithio Ei Fawrhydi â hir Oes hapus i deyrnasu drosom.
Rhoddwyd ym Mhalas St. James y degfed dydd o fis Medi ym mlwyddyn Ein Harglwydd dwy fil a dwy ar hugain.
DUW A GADWO’R BRENIN