Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II 1926 – 2022

Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II

1926 – 2022

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent wedi ei dristau’n fawr i glywed y newyddion am farwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II.

Dywedodd Chris Smith, Llywydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent:

“Bu’r Frenhines ar yr Orsedd am gyfnod hirach na neb o’r blaen ac mae ei marwolaeth yn golled enfawr i’r genedl.

“Bu ei hymroddiad a’i gwasanaeth i’r Deyrnas Unedig a’r Gymanwlad dros y 70 mlynedd ddiwethaf yn ddiwyro a bydd cenedlaethau yn cofio am ei hetifeddiaeth.

“Ymestwn gydymdeimlad y cyngor a phobl Blaenau Gwent i holl aelodau’r Teulu Brenhinol ar yr adeg anoddaf  hwn."

Mae’r Cyngor wedi gwneud y trefniadau dilynol:

- Caiff holl fusnes swyddogol y Cyngor, yn cynnwys cyfarfodydd a digwyddiadau, eu gohirio tan ar ôl yr angladd fel arwydd o barch yn ystod y cyfnod hwn o alaru.

- Bydd Llyfrau Cydymdeimlad ar gael i’w llofnodi yn y Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy a Llys Einion, Abertyleri, rhwng 9am a 6pm dydd Llun i ddydd Gwener.

Os na allwch ddod draw i adeilad eich hun gallwch anfon neges i’w chynnwys drwy’r post at Gwasanaethau Democrataidd, Swyddfeydd Cyffredinol, Heol y Gwaith Dur, Glynebwy, NP23 6DN, neu ffonio ein Canolfan Gyswllt ar 01495 311556 a gofyn am Gwasanaethau Democrataidd fydd yn cymryd neges drosoch.

Gallwch hefyd lofnodi Llyfr Cydymdeimlad swyddogol y Teulu Brenhinol ar-lein: https://www.royal.uk/royal-family

- Bydd y Cyngor yn nodi’r tawelwch cenedlaethol swyddogol a amlinellwyd gan Balas Buckingham. (Manylion pellach i ddilyn).

- Gellir gadael blodau er cof yn y lleoliadau dilynol:

Tu allan i Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy.

Tu allan Llys Einion, Abertyleri.

Ger y Gofeb Rhyfel, Sgwâr Neuadd y Farchnad, Brynmawr (tu allan i’r rheiliau)

Ger y Gofeb Rhyfel, Parc Canolog, Blaenau

Parc Bedwellte, Tredegar (ardal lawnt wrth ymyl yr ardd gron)

Dim ond blodau er cof y dylid eu gadael.

- Yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi Y Frenhines Elizabeth II, disgwylir y caiff Charles ei gyhoeddi’n swyddogol yn Frenin ddydd Sadwrn. Bydd hyn yn digwydd ym Mhalas St James yn Llundain, o flaen corff seremonïol a elwir yn Gyngor Esgyniad.

Cynhelir Cyhoeddi Lleol ym Mlaenau Gwent tu allan i’r Swyddfeydd Cyffredinol yng Nglynebwy am 3.30pm ddydd Sul 11 Medi.

Bydd Chris Smith, Aelod Llywyddol y Cyngor, yn darllen y Cyhoeddiad yn uchel i westeion.

Mae croeso i aelodau o’r cyhoedd fynychu.