Dweud eich barn ar y cynnig i gynyddu darpariaeth ADY ym Mlaenau Gwent

Mae Cyngor Blaenau Gwent yn ymgynghori ar gynlluniau i gynyddu capasiti ar gyfer disgyblion gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol mewn ysgolion prif ffrwd mewn camau dros y pum mlynedd nesaf.

Mae dogfen ymgynghori ffurfiol yn cynnig gwella darpariaeth a meithrin capasiti ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn awr ar gael i’w weld ar y wefan.

https://www.blaenau-gwent.gov.uk/en/council/consultations/proposal-to-improve-provision-and-build-capacity-for-additional-learning-needs/

Y bwriad yw ailwampio amgylcheddau dysgu presennol i greu lleoedd ystafell ddosbarth a chyfleusterau cysylltiedig i ddarparu ar gyfer a sicrhau adnoddau priodol ar gyfer y darpariaethau a gynigir ar gyfer ADY ac ASD. Yn ychwanegol, ac wrth ochr hyn, bydd y Cyngor yn gweithio gydag ysgolion i ddatblygu cynllun hirdymor i gefnogi twf a datblygiad parhaus.

Mae nifer o wahanol ffyrdd i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad a rhoi eich sylwadau;

Mae hefyd gyfres o sesiynau galw heibio a drefnwyd i unrhyw un sydd â diddordeb i ganfod mwy, sef:

  • Dydd Mawrth 2 Mai, 3pm i 6.30pm – Canolfan Dysgu Gweithredol Glynebwy, Stryd James
  • Dydd Mercher 3 Mai, 3pm i 6.30pm – Tŷ Bedwellte, Stryd Morgan
  • Dydd Mawrth 9 Mai, 3pm i 6.30pm – Canolfan Ddiwylliannol a Chynadleddau y Metropole Abertyleri
  • Dydd Mercher 10 Mai, 3pm i 6.30pm – Clwb Rygbi Brynmawr, Heol Gatholig

Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Gweithredol Pobl ac Addysg y Cyngor:

 “Mae ein holl blant yn haeddu’r cyfle i ddatblygu eu potensial a llwyddo o fewn ein hysgolion a’n cymunedau ein hunain. Rydym yn ymroddedig i wneud yn siŵr eu bod yn cael y cyfle hwnnw, gyda darpariaeth addysg sy’n diwallu eu hanghenion. Mae canolfannau adnoddau yn darparu addysg ansawdd uchel yn lleol ar gyfer plant gydag anghenion dysgu ychwanegol o fewn ysgolion prif ffrwd.

"Dangosodd ein hadolygiad diweddar bod angen cynyddol am leoedd ADY o fewn y fwrdeistref a chredwn fod y cynnig hwn yn cynnig datrysiad go iawn, gan roi’r dulliau i ddysgwyr maent eu hangen i dderbyn eu haddysg wrth ochr eu grŵp cyfoedion eu hunain a rhoi’r dulliau mae ysgolion eu hangen i gefnogi ystod eang o ddysgwyr mewn ysgolion lleol.”

Daw’r ymgynghoriad i ben am 5pm ddydd Mawrth 6 Mehefin 2023.