Digwyddiad Wythnos Gofalwyr – Tŷ Bedwellte, 9 Mehefin 2022

 

Daeth Age Cymru - Gwasanaethau Cymunedol Gofalwyr a Gwasanaethau Cymdeithasol Blaenau Gwent ynghyd fel rhan o Wythnos Gofalwyr 2022 i gynnal digwyddiad arbennig i ddathlu’r holl ofalwyr di-dâl o fewn y gymuned a dangos ein gwerthfawrogiad a diolch iddynt oll wyneb yn wyneb. ffotograffau

Rhoddodd y digwyddiad, a gynhaliwyd yn Nhŷ Bedwellte yn Nhredegar ddydd Iau 9 Mehefin – gyfle i ni ddangos ein gwerthfawrogiad ac i ddiolch am holl waith gwych gofalwyr di-dâl. Roedd hefyd yn gyfle i ofalwyr gael seibiant haeddiannol iawn o’u rolau gofalu ac ar yr un pryd gyfle i gwrdd a siarad wyneb yn wyneb gyda gofalwyr a gweithwyr proffesiynol eraill.

Dywedodd Tania Hooper, Swyddog Arweiniol Gofalwyr y Cyngor:

“Roedd mor dda gweld pawb wyneb yn wyneb eto ar ôl yr hyn a fu’n ychydig flynyddoedd anodd iawn, yn arbennig felly ar gyfer gofalwyr di-dâl.”

Daeth nifer o asiantaethau/sefydliadau sy’n arbenigo mewn cefnogi unigolion a’u gofalwyr ynghyd, ac roeddent ar gael i roi’r wybodaeth a’r cyngor diweddaraf un. Cafodd gofalwyr hefyd gyfle i gymryd rhan mewn sesiynau crefft therapiwtig gan Lark Design Make a mwynhau bwffe blasus i ddod â’r diwrnod i ben.

Dywedodd yr holl ofalwyr a fynychodd i’r diwrnod fod yn hyfryd a’r wybodaeth oedd ar gael yn ddefnyddiol iawn.

Dywedodd y Cynghorydd Hayden Trollope, Aelod Gweithrediaeth Pobl a Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor:

“Mae mor bwysig rhoi cydnabyddiaeth i bob gofalwr, maent yn rhoi cymaint heb ofyn am fawr yn ôl, mae’r ffordd y cefnogant fywydau’r bobl y gofalant amdanynt yn anfesuradwy. Felly ar ran Cyngor Blaenau Gwent a holl breswylwyr y Fwrdeistref, hoffem ddweud DIOLCH YN FAWR i chi am bopeth a wnewch.”

Diolch yn arbennig i’r holl sefydliadau partner ac asiantaethau a fynychodd:

  • Gwasanaethau Rhyddhau o Ysbyty ACG
  • Rhaglen Dewisiadau ACG
  • Cymorth Dioddefwyr ACG
  • Gwasanaethau Eiriolaeth ACG
  • GIG Cymru
  • Gofalwyr Cymru
  • Hosbis y Cymoedd
  • Cymdeithas Alzheimer
  • Prosiect Gofalwyr
  • United Welsh
  • Prosiect Cyngor Anabledd
  • Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth
  • Gofal a Thrwsio
  • Gofal a Chymorth Hirdymor
  • Ymgysylltu Meddygon Teulu
  • Lark Design Make
  • Gweithgareddau Grŵp ar gyfer Gofalwyr
  • Gweithdy Cynhwysiant Digidol/Ymwybyddiaeth o Sgamiau
  • Iechyd a Llesiant, Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin
  • Newidiadau i rôl gofalwyr di-dâl.