Cynhelir Cystadleuaeth Coginio Pice ar y Maen

Cynhelir Cystadleuaeth Coginio Pice ar y Maen yn Nhŷ Bedwellte ym Mlaenau Gwent i helpu dathlu Bythefnos Masnach Deg 2023 a Dydd Gŵyl Dewi. Rydym yn edrych am y pice ar y maen mwyaf o ran maint a mwyaf hwyliog i gael eu pobi erioed a’r unig reol yw fod yn rhaid iddynt gynnwys o leiaf un cynhwysyn Masnach Deg.

Gwahoddir ymgeiswyr o bob oed i fod yn greadigol a mentrus gan fod llawer o wahanol ddosbarthiadau i ddal eich dychymyg, gwreiddioldeb a thalent pobi. Gall eich pice ar y maen fod o unrhyw siâp, unrhyw flas ac unrhyw faint gyda’r gorau yn y sioe yn ennill teitl Pencampwr Pice ar y Maen 2023. Bydd hefyd wobrau am y Cynnig Gorau a’r Cynnig Masnach Deg Gorau.

Mae dosbarthiadau ar gyfer:
• 6 Pic ar y Maen traddodiadol – chwech o’ch pice traddodiadol crwn gorau
• 6 Pic ar y Maen unrhyw flas – unrhyw flas melys heblaw traddodiadol
• 6 Pic ar y Maen Sawrus – unrhyw flas sawrus e.e. caws, perlysiau, sbeisys
• 6 Pic ar y Maen o wahanol siâp – unrhyw flas, rydym yn edrych am rywbeth gwahanol i’r arfer, gall eich cynnig fod yn 6 siâp gwahanol neu i gyd yr un siâp cyn belled nad ydynt yn grwn
• Pic ar y Maen Mwyaf – rhaid bod yn grwn, wedi ei fesur ar draws ei ddiamedr.
• 3 Pic ar y Maen siâp Llwy Garu – gall y llwyau caru fod yn un darn neu’n nifer o bice unigol wedi eu huno
• 6 Pic ar y Maen Elusennol – Dathlwch elusen agos at eich calon drwy bobi pice ar y maen i ddathlu eu logo neu eu gwaith. Unrhyw faint, siâp, blas neu liw.

Mae hefyd ddosbarthiadau plant:
• Dosbarth plant – disgyblion ysgol cynradd. 6 pic ar y maen traddodiadol - Chwech o’ch pice ar y maen crwn traddodiadol
• Dosbarth plant – disgyblion ysgol cynradd – 6 pic ar y maen hwyliog – unrhyw siâp, blas, lliw neu addurniad
• Dosbarth plant – disgyblion ysgol cynradd. 6 pic ar y maen traddodiadol - Chwech o’ch pice ar y maen crwn traddodiadol
• Dosbarth plant – disgyblion ysgol cynradd – 6 pic ar y maen hwyliog – unrhyw siâp, blas, lliw neu addurniad

Rhaid derbyn cynnig yn Nhŷ Bedwellte erbyn 1.00pm ar 1 Mawrth 2023, pan fydd y beirniadu yn dechrau. Mae manylion llawn y gystadleuaeth ar gael ar wefan Tŷ a Pharc Bedwellte neu wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.

Dywedodd y Cyng John Morgan, Aelod Gweithrediaeth dros Adfywio:
‘Pa ffordd well i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi na chystadleuaeth pice ar y maen. Rwy’n credu ei fod yn llawer rhwyddach na bwyta cennin amrwd! Y peth gorau am hyn yw ein bod hefyd yn cael cyfle i ddathlu manteision cynnyrch Masnach Deg felly rydym yn rhoi hwb i gynhyrchwyr ym mhob rhan o’r byd. Caiff y sawl sy’n cymryd rhan eu synnu am yr hyn sydd ar gael yn lleol, o ble y daw a sut y gall prynu nwyddau Masnach Deg gefnogi cymunedau mewn gwledydd sy’n datblygu.
Diwedd.'

Ffurflen gais, rheolau ac awgrymiadau