Cyngor newydd i gadw Cymru'n ddiogel dros y Nadolig

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canllawiau cryf i gefnogi pobl ledled Cymru dros gyfnod y Nadolig.

Bydd Cymru wedyn yn cyflwyno cyfyngiadau newydd, gan gynnwys ar gyfer busnesau a gwasanaethau – a hynny o 27 Rhagfyr ymlaen. Bydd hyn yn cynnwys rheol cadw pellter cymdeithasol o 2 fetr mewn swyddfeydd a rhoi mesurau ychwanegol ar waith i ddiogelu cwsmeriaid a staff – ee, systemau unffordd a rhwystrau ffisegol.

Bydd clybiau nos yn cau hefyd. Mae angen y cyfyngiadau llymach hyn i helpu i reoli lledaeniad Omicron.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

Delta fydd prif achos heintiau coronafeirws yng Nghymru hyd at y Nadolig. Ond rydym yn gweld achosion o Omicron yn cynyddu'n gyflym bob dydd yma yng Nghymru – ac ar draws y DU.

"Mae angen cynllun arnom i'n cadw ni'n ddiogel y Nadolig hwn ac mae angen mesurau cryfach arnom i'n hamddiffyn wedi hynny, wrth inni baratoi ar gyfer ton fawr o heintiau Omicron.

"Mae Omicron yn fygythiad newydd i'n iechyd a'n diogelwch. Dyma'r datblygiad mwyaf difrifol yn y pandemig hyd yma.

"Mae'n un y mae'n rhaid inni ei gymryd o ddifrif. Byddwn yn parhau i roi mesurau cymesur ar waith i ddiogelu bywydau pobl a’u  bywoliaeth.

"Dyma feirws sy'n ffynnu ar gyswllt dynol. Mae pob cyswllt ag eraill yn gyfle inni ledaenu neu ddal y feirws."

Heddiw, bydd y Prif Weinidog yn annog pawb i ddilyn pum cam syml ar gyfer Nadolig mwy diogel, gan bwysleisio bod cwrdd â nifer o bobl yn y cyfnod cyn y Nadolig yn creu mwy o gyfle i’r feirws ledaenu.

Bydd lleihau ein cyswllt  ag eraill, yn enwedig os ydym yn cwrdd dros y Nadolig â phobl hŷn neu bobl agored i niwed, yn helpu i'w hamddiffyn nhw rhag y feirws.

Er mwyn cadw'n ddiogel yn y cyfnod cyn y Nadolig, mae Llywodraeth Cymru yn cynghori pawb yn gryf i ddilyn y pum mesur hyn i gadw'n ddiogel:

  • Cael eich brechu – ac os ydych wedi cael apwyntiad i gael pigiad atgyfnerthu, ewch amdani.
  • Os ydych yn mynd allan, yn mynd i siopa Nadolig neu'n ymweld â phobl – cyn gadael y tŷ, profwch da chi. Cymerwch brawf llif unffordd. Os yw'n bositif – arhoswch gartre.
  • Mae cwrdd yn yr awyr agored yn well na chwrdd dan do. Os ydych yn cwrdd dan do, gwnewch yn siŵr fod yno ddigon o awyr iach.
  • Cymdeithasu bob hyn a hyn – os ydych wedi trefnu digwyddiadau, gadewch o leiaf ddiwrnod rhyngddynt.
  • A chofiwch gadw pellter cymdeithasol, gwisgo gorchudd wyneb a golchi'ch dwylo.
    Bydd y rheoliadau hefyd yn cael eu newid i gynnwys gofyniad i weithio gartref lle bynnag y bo modd.

Ar ôl y Nadolig, ar 27 Rhagfyr bydd cyfyngiadau cyfreithiol newydd yn dod i rym, i helpu i ddiogelu rhag lledaeniad amrywiolyn Omicron.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd hyd at £60m ar gael i gefnogi busnesau a gaiff eu heffeithio gan y cyfyngiadau newydd.

Dywedodd y Prif Weinidog hefyd:

"Eleni, Nadolig llai fydd y Nadolig mwyaf diogel. Wrth gyfyngu ar nifer y bobol y byddwn yn cwrdd â nhw, byddwn yn llai tebygol o ddal neu drosglwyddo'r feirws.

Mwynhewch y Nadolig gyda'ch anwyliaid – ac ystyriwch gwrdd â rhagor o ffrindiau a chydnabod pan fydd Omicron yn llai o fygythiad.

Hoffwn ddiolch hefyd i'r miloedd lawer o bobl a fydd yn gweithio'r Nadolig hwn i'n cadw ni i gyd yn ddiogel – yn enwedig yr holl bobl sydd wedi canslo eu cynlluniau er mwyn gweithio yn y canolfannau brechu ledled Cymru, a hynny er mwyn ein diogelu ni i gyd rhag y feirws difrifol hwn."