Cyngor i fanteisio o gyllid i lanhau gwm cnoi o strydoedd y fwrdeistref

Mae Cyngor Blaenau Gwent ymysg y cynghorau cyntaf i gael cyllid o gynllun grant y Tasglu Gwm Cnoi, cronfa newydd sbon i helpu glanhau gwm cnoi o drefi a dinasoedd Prydain.

Sefydlwyd y Gweithlu Gwm Cnoi gan Defra a chaiff ei redeg gan elusen amgylcheddol Keep Britain Tidy. Y cyllid a gyhoeddwyd yr wythnos hon yw rhan gyntaf pecyn yn werth hyd at £10 miliwn gan rai o brif gynhyrchwyr gwm yn cynnwys Mars Wrigley a Perfetti Van Melle i fynd i’r afael â staeniau gwm cnoi – caiff y buddsoddiad ei ledaenu dros bum mlynedd.

Bydd y cyllid a ddyfarnwyd i Gyngor Blaenau Gwent yn eu galluogi i gynnal glanhau dwfn i dynnu staeniau gwm cnoi o strydoedd canol y dref a gosod arwyddion newydd i annog pobl i roi eu gwm mewn biniau yn y dyfodol. Mae cynlluniau peilot diweddar gan Mars Wrigley a chorff dim-er-elw Behaviour Change yn defnyddio’r arwyddion hyn wedi gostwng sbwriel gwm gan hyd at 64%.

Dywedodd y Cynghorydd Helen Cunningham, Aelod Gweithrediaeth yr Amgylchedd yng Nghyngor Blaenau Gwent:

“Rydym yn hynod falch i dderbyn y cyllid hwn gan y Tasglu Gwm Cnoi a bydd yn ein helpu i fynd i’r afael â phroblem barhaus staeniau gwm cnoi a helpu adfywio ein canol trefi a gofodau cyhoeddus.

“Bydd glanhau yn dechrau tua wythnos gyntaf mis Hydref a bydd yn cymryd tua bythefnos i’w orffen. Gobeithiwn y bydd pawb yn mwynhau ein strydoedd glân ac arwyddion newydd smart.”

Mae’r difrod a’r staeniau o gwm cnoi yn costio miliynau o bynnau i gynghorau ym Mhrydain bob blwyddyn. Mae cronfa grant y Tasglu Gwm Cnoi yn cynrychioli ymrwymiad gan y Llywodraeth a’r prif gwmnïau cynhyrchu gwm i gydweithio i ganfod datrysiad hirdymor i’r broblem.

Nodiadau i’r golygydd:

Mae’r Tasglu Gwm Cnoi, a sefydlwyd gan Defra yn 2021, yn dod ynghyd â’r prif gwmnïau cynhyrchu gwm cnoi (yn cynnwys Mars Wrigley a Perfetti Van Melle) a chynrychiolwyr o Lywodraeth y Deyrnas Unedig a’r Gweinyddiaethau Datganoledig. Mae’r cynllun, a weinyddir gan elusen annibynnol Keep Britain Tidy ac a gefnogir gan SOENECS ar reoli grant a Behaviour Change mewn newid ymddygiad gyda gwm yn gweld y cwmnïau cynhyrchu gwm cnoi yn buddsoddi dros £10 miliwn dros bum mlynedd i gyflawni dau amcan: glanhau hen staeniau gwm cnoi a newid ymddygiad fel bod mwy o bobl yn rhoi eu gwm mewn bin.

Keep Britain Tidy: www.keepbritaintidy.org
Mae Keep Britain Tidy yn elusen annibynnol gyda thair nod – dileu sbwriel, cael gwared â gwastraff a gwella lleoedd. Mae hyn yn golygu mwy na dim ond codi sbwriel. Mae’n golygu creu traethau, parciau a strydoedd glân. Mae’n golygu creu arferion cynaliadwy a dileu gwastraff diangen. Mae’n ymwneud â gweithio gyda phobl, busnesau, sefydliadau a chyrff cyhoeddus i ofalu am yr amgylchedd ar garreg ein drws. Ymladdwn dros hawl pobl i fyw a gweithio mewn lleoedd y gallant fod yn falch ohonynt a ffynnu ynddynt.

Behaviour Change: www.behaviourchange.org.uk
Mae Behaviour Change yn fenter gymdeithasol dim-er-elw a sefydlwyd yn 2009. Maent yn creu newid cymdeithasol ac amgylcheddol, gyda syniadau mawr wedi’u seilio mewn gwyddor ymddygiadol. Drwy raglen arloesi 5 mlynedd a chydweithio gyda chwmni gwneud gwm cnoi Mars Wigley, maent wedi creu a thrin amrywiaeth o ffyrdd i annog ymddygiad cyfrifol, a arweiniodd at ostyngiadau lleol o hyd at 64% mewn sbwriel gwm. Cafodd yr ymyriadau hyn eu gwneud ar gael i’w defnyddio gan gynghorau fel rhan o Gynllun Grant y Tasglu Cnoi Gwm. Mae pecyn cymorth ar gael: www.tacklegumlittering.co.uk

SOENECS Cyf: www.soenecs.co.uk
Mae SOCIAL, ENVIRONMENTAL & ECONOMIC SOLUTIONS (SOENECS) Cyf yn bractis ymchwil ac arloesedd annibynnol sy’n rhoi cyngor strategol a chymorth i’r sector cyhoeddus a’r sector preifat ym meysydd yr economi gylchol, rheoli gwastraff, rheoli adnoddau, newid hinsawdd, defnydd adnewyddadwy, rheoli carbon a darparu partneriaeth. Mae SOENECS yn bartner yn rhaglen pedair blynedd NWE TRANSFORM-CE Interreg i droi gwastraff plastig i’w ddefnyddio i wneud peiriannau argraffu 3D. Rydym yn gweithio ar hyn o bryd gyda’r Tasglu Gwm Cnoi a Keep Britain Tidy i oruchwylio gweinyddu Cynllun Grant y Tasglu Gwm Cnoi.