Cyngor Blaenau Gwent yn ymroddedig i atal tipio anghyfreithlon

Mae Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol Cyngor Blaenau Gwent wedi croesawu adroddiad Gweithgaredd Gorfodaeth Tipio Anghyfreithlon 2021/22 a bydd yn parhau i gefnogi gwaith rheoleiddio gwastraff a datblygu’r Gwasanaeth Gorfodaeth Rheng Flaen.

Bu Tîm Gorfodaeth Rheng Flaen newydd ar waith ers mis Medi 2021. Mae hyn wedi arwain at ddull mwy cydlynol ac integredig o ddelio gyda gwastraff sydd wedi ei grynhoi’n anghyfreithlon mewn canol trefi a lleoliadau gwledig/lled-wledig.

Mae nifer o gosbau cyfreithiol ar gael i’r Tîm Gorfodaeth Rheng Flaen a gaiff eu cynnwys yn Neddf Diogelu’r Amgylchedd 1990. Mae’r Awdurdod wedi cymryd y camau gweithredu dilynol i reoleiddio gwastraff rhwng mis Ebrill 2021 a mis Chwefror 2022:
• Cyhoeddi 11 hysbysiad cosb sefydlog am dipio anghyfreithlon
• Cyhoeddi 5 hysbysiad cosb sefydlog £300 am ddyletswydd gofal aelwydydd
• Cyhoeddi 2 cosb sefydlog £300 am ddyletswydd gofal masnachol.
• Ymchwilio 77 digwyddiad tipio anghyfreithlon ar dir preifat
• Derbyn 525 o ymholiadau i’r Warden Gorfodaeth
• Ymchwilio 424 o gwynion am dipio anghyfreithlon yng nghanol trefi
• Anfon 79 llythyr rhybudd cam cyntaf am gamleoli gwastraff domestig mewn mannau casglu gwastraff answyddogol.

Mae gweithredu gorfodaeth wedi gostwng drwy gydol 2021 fel canlyniad i’r pandemig. Fodd bynnag, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ar gyfer cymharu sef 2019/20, roedd Blaenau Gwent yn wythfed allan o 22 awdurdod lleol. Yn fwy diweddar (2021/21) yng nghyswllt digwyddiadau tipio anghyfreithlon, roedd y Cyngor yn ddeuddegfed allan o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru gyda 1661 digwyddiad wedi eu cofnodi.

Sicrhawyd cyllid hefyd gan Cadw Cymru’n Daclus ym Mehefin 2021 ar gyfer prynu offer goruchwyliaeth CCTV. Mae’r Tîm Gorfodaeth Rheng Flaen yn awr wedi derbyn mwyafrif yr offer ac yn dechrau ei ddefnyddio mewn mannau y mae tipwyr anghyfreithlon yn eu defnyddio’n aml.

Dywedodd y Cynghorydd Joanna Wilkins, Aelod Gweithredol yr Amgylchedd Cyngor Blaenau Gwent:
“Mae tipio anghyfreithlon yn drosedd a rydym yn gweithredu yn erbyn y rhai sy’n cael gwared â’u gwastraff yn anghyfreithlon drwy gynyddu ein gweithgareddau gorfodaeth ac erlyn troseddwyr. Mae mwyafrif helaeth ein preswylwyr yn gyfrifol ac rydym yn ymroddedig i gadw Blaenau Gwent yn amgylchedd glân a gwyrdd.”