Cyngor Blaenau Gwent yn llongyfarch myfyrwyr Lefelau AS/A

Hoffai Cyngor Blaenau Gwent longyfarch pob myfyriwr Lefelau AS/A ar eu llwyddiant heddiw.

Caiff addysg ôl-16 ym Mlaenau Gwent ei ddarparu yn Hafan Dysgu Blaenau Gwent, campws i Goleg Gwent. Oherwydd pandemig cyfredol Covid-19, cafodd graddau eu dyfarnu gan y ganolfan mewn dull a ddatblygwyd drwy CBAC mewn cysylltiad â Chymwysterau Cymru a sefydliadau addysgol.

Llongyfarchodd y Cynghorydd Joanne Collins, Aelod Gweithredol dros Addysg ar Gyngor Blaenau Gwent, y myfyrwyr ar ran yr awdurdod lleol. Dywedodd:

“Unwaith eto bu’n flwyddyn anodd iawn i ddysgwyr oherwydd i bandemig Covid darfu ar eu haddysg. Mae canlyniadau heddiw yn glod i waith caled ac ymroddiad parhaus staff ar draws y sector addysg ym Mlaenau Gwent – yn neilltuol staff yn Hafan Dysgu Blaenau Gwent, ein myfyrwyr a’u teuluoedd a phawb arall a’u cefnogodd ar hyd y ffordd.

Llongyfarchiadau ar eich canlyniadau heddiw, mwynhewch a dathlwch eich llwyddiant. Cofiwch fod help a chefnogaeth ar gael os oes gennych unrhyw broblemau gyda’r graddau a gawsoch.

“Dymuniadau gorau oll i chi ar gyfer y dyfodol ar y llwybrau gyrfa a ddewiswch.”