Cyngor Blaenau Gwent yn gosod Cyllideb ar gyfer 2023/24 er heriau cyllidol

Mae cynghorwyr Blaenau Gwent heddiw wedi cytuno ar Gyllideb ar gyfer 2023/24, yn dilyn cysylltu’n eang gyda phreswylwyr ar syniadau am arbedion a blaenoriaethau gwariant.

Roedd y Cyngor yn gynharach wedi rhybuddio am benderfyniadau anodd am wasanaethau yn dilyn ei setliad ariannol gan Lywodraeth Cymru, sydd ar 6.5% yn sylweddol is na chynnydd Cymru gyfan o 7.9%. Er bod Llywodraeth Cymru wedi cynyddu’r cyllid i bron £140 miliwn, fel pob sefydliad, mae’r Cyngor yn wynebu pwysau ariannol hysbys iawn oherwydd y pandemig byd-eang, pwysau cost, cynnydd mewn chwyddiant, a chynnydd enfawr mewn costau ynni a thanwydd a gofynion gofal cymdeithasol.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cyng. Steve Thomas, fod cynghorwyr wedi gwrando ac ystyried p35265210ryderon preswylwyr am rai o’r cynigion ar gyfer arbedion wrth baratoi ar gyfer y ddadl a gosod y Gyllideb yn y Cyngor llawn heddiw. Cytunwyd ar ystod o arbedion a phrosiectau cynhyrchu incwm yn werth ychydig dros £3 miliwn yn y cyfarfod er mwyn cau’r bwlch cyllideb, yn ogystal â galw ar gronfeydd cadw o £4.3 miliwn. Gwrthododd cynghorwyr nifer o gynigion a fyddai wedi effeithio ar wasanaethau rheng-flaen.

Bydd ysgolion yn y fwrdeistref yn derbyn cynnydd o 4.2% mewn cyllid ar ôl i gynghorwyr bleidleisio i gynyddu hyn i roi ystyriaeth i’r pwysau cost sy’n eu hwynebu wrth iddynt sicrhau adferiad o’r pandemig.

Cytunwyd hefyd ar gynnydd o 3.45% yn y Dreth Gyngor, er y caiff y Dreth Gyngor derfynol ei gosod ar ddydd Llun 6 Mawrth i roi ystyriaeth i braeseptau gan yr heddlu a chynghorau tref a chymuned.

Dywedodd y Cyng Steve Thomas:

“Rydym bob amser wedi bod yn agored ac onest am yr heriau ariannol sylweddol sy’n wynebu’r Cyngor a sut y gall hynny arwain weithiau at benderfyniadau amhoblogaidd. Dros yr ychydig wythnosau rydym wedi cysylltu gyda’n preswylwyr ac wedi casglu eu sylwadau am ein cynlluniau ar gyfer arbed a chodi arian. Cawsom fwy o ymateb nag erioed o’r blaen i’n harolwg ar y gyllideb a hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran gan ei bod mor bwysig i bobl gymryd rhan mewn democratiaeth leol.

“Credaf fod y gyllideb y gwnaethom ei gosod heddiw mor deg a chytbwys ag y gallem ei gwneud hi. Unwaith eto rydym wedi mynd ati i ddiogelu’r gwasanaethau mwyaf hanfodol, a’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Rydym hefyd wedi gwrando arsylwadau preswylwyr oedd â barn gref am rai o’r cynigion a gyflwynwyd. Rydym wedi ceisio cadw’r Dreth Gyngor mor isel ag oedd modd yn wyneb yr heriau na welwyd eu tebyg sy’n wynebu pob Cyngor ar hyn o bryd.

“Fodd bynnag, nid yw’r her yn diflannu. Bydd yr ychydig flynyddoedd nesaf yn parhau i fod yn anodd i ni yn ariannol a rydym eisoes yn cynllunio ar gyfer hyn drwy ddatblygu a gweithredu adolygiadau busnes strategol cynaliadwy i fynd i’r afael â bylchau cyllid yn y dyfodol.”

Nodyn

  • Cafodd cyfanswm o 3,740 holiadur arolwg cyllideb eu dychwelyd i’r cyngor, gyda’r cyfan heblaw pedwar yn ddilys ar gyfer eu dadansoddi. Mae hyn yn golygu ymateb dilys o 3,736 sy’n cynrychioli bron 5.5% o boblogaeth yr ardal.
  • Gofynnwyd i ymatebwyr ystyried rhestr o wasanaethau ac amlinellu eu dwy flaenoriaeth uchaf ar gyfer gosod y gyllideb. Roedd blaenoriaeth amlwg glir ar gyfer ysgolion (46%). Y gwasanaeth a gafodd yr ail flaenoriaeth oedd gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer plant (33%) ac wedyn wasanaethau cymdeithasol ar gyfer oedolion agored i niwed a’r henoed (31%). Dilynwyd hyn yn agos gan Gwasanaethau Amgylcheddol tebyg i wastraff, ailgylchu a glanhau (30%).