Cyngor Blaenau Gwent yn croesawu £9 miliwn o gyllid i ddatblygu canolfan addysg ôl-16 technoleg uchel yng Nglynebwy

Mae Cyngor Blaenau Gwent yn croesawu’r buddsoddiad o £9 miliwn a ddyfarnwyd fel rhan o gronfa Balchder Bro Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Bydd y buddsoddiad yn galluogi’r Cyngor i ddatblygu ei safle Peirianneg Gwerth Uchel (HiVE), sefydliad hyfforddiant ac addysg gyda’r gorau yn y byd a fydd yn seiliedig yng Nglynebwy.

Bydd y cyllid yn helpu i sicrhau y bydd gan bobl ifanc yr addysg a sgiliau perthnasol i gael mynediad i’r swyddi tâl uchel, sgil uchel sydd eu hangen gan y sector uwch ddeunyddiau a gweithgynhyrchu a’r technolegau digidol a galluogi.

Arweiniodd y Cyngor gynnig llwyddiannus gan weithio gyda Choleg Gwent, partneriaid diwydiannol a rhaglen Cymoedd Technoleg Llywodraeth Cymru. Defnyddir y cyllid i ailwampio ffatri wag i fod yn gyfleuster addysg a sgiliau uwch-dechnoleg i ddarparu ar gyfer anghenion Diwydiant 4.0. Y weledigaeth ar gyfer y Cymoedd Technoleg yw creu ffocws uwch dechnoleg egnïol ac o safon byd-eang ar gyfer cwmnïau gweithgynhyrchu o bob maint yn seiliedig yng Nghymru yn cwmpasu llawer o is-sectorau allweddol, yn cynnwys digidol, seibr, deallusrwydd emosiynol, roboteg a gweithgynhyrchu yn darparu cyflogaeth sy’n heriol, sy’n cynnig cyflogau da ac a werthfawrogir. Nod y rhaglen yw annog mabwysiadu technolegau digidol a datblygu uwch dechnolegau gwerth uchel sy’n cefnogi diwydiannau o’r math diweddaraf un tebyg i 5G, technoleg batri ac ymchwil i gerbydau modurol ac awtonomaidd.

Bydd HiVE ar safle 1.96 erw yng Nglynebwy, safle adeilad blaenorol Monwel Hankinson ar Heol Letchworth. Bydd yr adeilad 21,808 tr.sg. yn agos at ganol tref Glynebwy. Yr uchelgais yw sicrhau gofod addysgu ansawdd uchel gyda lle ar gyfer hyd at 600 o fyfyrwyr yn cynnwys ystafelloedd dosbarth, ardaloedd astudio ac amrywiaeth o ofodau gweithdy, gyda roboteg ac offer gweithgynhyrchu o’r math diweddaraf un ar gael i’w defnyddio gan fyfyrwyr ôl-16 a busnesau sy’n mabwysiadu technolegau newydd.

Yn ychwanegol, ar draws Blaenau Gwent a rhanbarth Blaenau’r Cymoedd, bydd ysgolion cynradd ac uwchradd yn cael mynediad i HiVE a gallant gael darlithwyr gwadd, arddangosiadau a datblygu dealltwriaeth o fyd gwaith drwy brofiadau o’r byd go iawn a mynediad i offer tu allan i alluedd cyfyngedig ysgolion.

Bydd y cyfleuster ar gael i bobl o bob rhan o Gymru a bydd ganddo’r cylch gorchwyl o annog dysgwyr a myfyrwyr gan grwpiau a dan-gynrychiolir i yrfaoedd STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg)..

Mae’r rhaglen Cymoedd Technoleg wedi ymrwymo £3.97 miliwn i HiVE fel rhan o strategaeth hirdymor Llywodraeth Cymru i sicrhau y caiff dysgwyr o bob oed ar draws pob lleoliad eu cefnogi gyda’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i lwyddo drwy eu bywydau a’u gyrfaoedd.

Dywedodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet Lle ac Adfywio Cyngor Blaenau Gwent:
‘Mae hyn yn newyddion gwych ac rwy’n croesawu’r cyllid i’n galluogi i weithio gyda’n partneriaid i adeiladu cyfleuster addysg a hyfforddiant o’r math diweddaraf un yma ym Mlaenau Gwent. Rwy’n sicr y bydd hyn yn gatalydd i greu swyddi lleol sgil uchel a thwf economaidd hirdymor ar gyfer yr ardal’.

Guy Lacey, Pennaeth Coleg Gwent:
‘Mae hyn yn newyddion gwirioneddol dda a bydd yn galluogi Coleg Gwent, drwy ein partneriaeth agos gyda Chyngor Blaenau Gwent, i ddarparu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol. Ein nod yw gwneud prosiect HiVE yn un o’r canolfannau gweithgynhyrchu a pheirianneg mwyaf datblygedig a llwyddiannus yn y Deyrnas Unedig.’