Cynghorydd Wilkins yn agor Siop Ailddefnyddio yn swyddogol - Y Den

Siop Ailddefnyddio newydd yng Nghanolfan Ailgylchu Roseheyworth Abertyleri

Gofynnir i breswylwyr gyfrannu i “Y Den” yn hytrach na thaflu eitemau y gellid eu defnyddio i sgipiau.

Mae Cyngor Blaenau Gwent a menter gymdeithasol Ymddiriedolaeth Elusennol Wastesavers wedi agor eu siop ailddefnyddio ddiweddaraf – Y Den – ddydd Gwener 5 Tachwedd.

Mae’r siop yn rhoi cyfle i breswylwyr gyfrannu eitemau cartref nad ydynt eu hangen mwyaf i’r siop elusen ar y safle yn hytrach na’u taflu mewn sgipiau ailgylchu.

Gwneir yn siŵr fod pob eitem a gyfrannir yn ddiogel ac yna byddant ar gael i gwsmeriaid am “brisiau bargen”.

Dywedodd y Cynghorydd Joanna Wilkins, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd:
“Rwyf wrth fy modd fod y siop yma wedi agor ym Mlaenau Gwent. Mae hyn yn rhoi cyfle i bobl ailgylchu eitemau nad ydynt eu heisiau mwyach a fedrai fel arall fod wedi cael eu taflu. Mae hefyd yn rhoi’n ôl i’r gymuned drwy gefnogi’r rhai a all fod ei angen.

“Cawsom ymateb da eisoes drwy gyfraniadau ac eitemau a gafodd eu harbed rhag cael eu taflu gan staff a gwirfoddolwyr yn y Ganolfan Ailgylchu. Rwy’n sicr y bydd yr agoriad swyddogol hwn yn helpu i godi proffil ein Siop Ailddefnyddio – Y Den – ymhellach.”

Fis diwethaf arbedodd Y Den fwy na 2,000 eitem yn pwyso bron 5 tunnell fetrig rhag mynd i’r sgipiau.

Dywedodd Tom Belcher, Rheolwr Rhanbarthol Wastesavers:
“Cawsom ymateb gwych gan bobl ers agor. Mae cwsmeriaid yn dweud wrthym drwy’r amser ei bod yn gywilydd beth mae pobl yn ei daflu.

“Os buoch erioed yn y ganolfan ailgylchu a meddwl efallai y gallai rhywun fod â defnydd ar gyfer y pethau rwy’n eu taflu, gallwch yn awr eu cyfrannu i’r siop elusen ar y safle.

“Mae preswylwyr hefyd wrth eu bodd gyda’r syniad fod eitemau nad ydynt eu heisiau yn cael cyfle i ganfod cartref newydd yn hytrach na mynd i sgip.

“Drwy agor y siop yma rydym wedi creu tair swydd newydd a byddwn yn ennill tunelli o eitemau rhag cael eu taflu. Mae pawb ar eu hennill.”

Mae Y Den ar gael yn:
Canolfan Gwastraff ac Ailgylchu Cartrefi Roseheyworth
Parc Busnes Roseheyworth
Abertyleri
NP13 1SP

Ar agor chwe diwrnod yr wythnos rhwng 09.30 a 16.30 (ar gau ar ddyddiau Mawrth)

Mwy o wybodaeth: https://vimeo.com/642711760

Dilynwch Y Den ar Facebook:
https://www.facebook.com/The-Den-at-Roseheyworth-106036291598028