Croeso i'ch pleidlais

Mae gwleidyddiaeth yn effeithio ar bopeth o dy amgylch di. O ba mor hir rwyt ti’n aros yn y system addysg, i reolau rhentu; o argaeledd 5G, i ba mor aml y caiff dy finiau eu casglu.

I wneud gwahaniaeth yn dy gymuned a dy gymdeithas, mae’n rhaid i ti wneud dy ran dros ddemocratiaeth. Un ffordd o gymryd rhan yw pleidleisio mewn etholiadau, fel dy fod yn helpu i ddewis pwy sy’n dy gynrychioli di ac yn gwneud penderfyniadau ar dy ran.

Nid oes ots ble cawsoch eich geni, os ydych chi'n byw yng Nghymru ac yn 16 oed neu hŷn, gallwch nawr bleidleisio yn etholiadau'r Senedd.

Darganfyddwch fwy am gymhwysedd pleidleisio.

O fis Mai 2022, byddwch hefyd yn gallu pleidleisio mewn etholiadau cynghorau lleol yng Nghymru pan fyddwch chi'n 16 oed. Gallwch gofrestru i bleidleisio pan fyddwch chi'n 14 oed. Darganfyddwch fwy am gofrestru

Gallwch bleidleisio ym mhob etholiad arall pan fyddwch yn 18 oed.