Cosbi plant yn gorfforol nawr yn anghyfreithlon yng Nghymru

Mae Cymru yn ymuno â mwy na 60 o genhedloedd y byd i roi terfyn ar gosbi plant yn gorfforol. Mae’r ddeddfwriaeth hon, sy’n gryn garreg filltir, yn cael gwared â’r amddiffyniad cyfreithiol hynafol 160 oed ac yn amddiffyn plant rhag ymosodiadau yn yr un modd ag oedolion.

O dan Ddeddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020, mae pob math o gosbi corfforol, fel smacio, taro, slapio ac ysgwyd, yn anghyfreithlon. Bydd y gyfraith newydd yn berthnasol i bawb yng Nghymru, gan gynnwys ymwelwyr, o 21 Mawrth 2022.

Mewn digwyddiad i blant bach yn Techniquest, croesawodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, y Ddeddf, gan ddweud:

"Mae heddiw yn ddiwrnod hanesyddol i blant a’u hawliau yng Nghymru wrth inni roi’r arfer o gosbi plant yn gorfforol y tu ôl inni. Dw i wedi ymgyrchu i’w gwneud yn anghyfreithlon cosbi plant yn gorfforol ers dros 20 mlynedd. Dw i wrth fy modd y bydd plant, o’r diwedd, o heddiw ymlaen, yn cael eu hamddiffyn rhag ymosodiadau yn yr un modd ag oedolion.

"Mae’r gyfraith yn glir bellach – ac yn haws i blant, rhieni, gweithwyr proffesiynol a’r cyhoedd ei deall. Mae cosbi corfforol yn anghyfreithlon yng Nghymru ac alla i ddim dweud wrthoch chi mor hapus mae hynny’n fy ngwneud i.

"Rydyn ni eisiau diogelu plant a’u hawliau, a bydd y gyfraith hon yn ychwanegu at y gwaith rhagorol rydyn ni’n ei wneud i ofalu bod pob plentyn yng Nghymru yn cael y dechrau gorau mewn bywyd, ac yn cael byw’r bywydau y maen nhw am ei fyw."

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford:

"Dw i wrth fy modd ei bod hi bellach yn anghyfreithlon cosbi plant yn gorfforol yng Nghymru. Mae hyn yn rhywbeth hanesyddol i blant a’u hawliau.

"Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn ei gwneud yn glir bod gan blant yr hawl i gael eu diogelu rhag niwed a rhag cael eu brifo, ac mae hynny’n cynnwys eu hamddiffyn rhag cael eu cosbi’n gorfforol. Mae’r hawl honno bellach yn rhan glir o gyfraith Cymru. Dim mwy o ansicrwydd. Dim ‘amddiffyniad cosb resymol’ bellach. Mae hynny i gyd yn y gorffennol. Does dim lle i gosbi corfforol mewn Cymru fodern."