Apêl Anrhegion Nadolig 2022 Gwasanaethau Plant

Eleni, derbyniodd pob plentyn a enwebwyd fag anrheg personol, yn seiliedig ar eu hoff/cas bethau a rannwyd gyda ni gan eu gweithiwr cymorth neu ysgol enwebu, ynghyd â blwch dewis yr un. Yn 2022, cyrhaeddom y nifer uchaf erioed o blant a phobl ifanc ar draws Blaenau Gwent, sef 555. Mae niferoedd mor uchel yn ein hatgoffa’n deimladwy o’r pwysau ychwanegol a roddwyd ar deuluoedd eleni yng nghanol yr argyfwng costau byw.

Hoffem achub ar y cyfle hwn i rannu gyda chi y gwaith anhygoel y mae ein timau wedi’i wneud i

gyflwyno Apêl Anrhegion Nadolig 2022. Rydym yn hynod ddiolchgar am yr holl roddion gwych a

gawsom, a helpodd i gefnogi rhai o’r teuluoedd mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau lleol. Mae haelioni’r unigolion yn ein cymunedau, cwmnïau a sefydliadau o fewn a thu allan i Flaenau Gwent yn rhagorol. Darllenwch y cylchlythyr llawn yma.