Sut y gall Gofal a Thrwsio helpu pobl hŷn yng Nghymru i gadw eu cartrefi’n gynnes

A yw eich cartref yn ddigon cynnes?

Sut y gall Gofal a Thrwsio helpu pobl hŷn yng Nghymru i gadw eu cartrefi’n gynnes

Pam mae cartref cynnes yn bwysig?

Mae pobl hŷn yn treulio rhwng 70% a 90% o’u hamser gartref, felly gall cartref cynnes wneud llawer i’ch cadw’n iach ac yn hapus. Yn ogystal â’ch cadw i deimlo’n iach ac yn dda yn feddyliol, mae cartref cynnes yn lleihau’r risg o gwympo a salwch anadlol yn eich cartref.

Efallai y byddwch yn poeni am y gost o gadw eich cartref wedi’i inswleiddio’n dda, neu fod system wresogi newydd yn rhy ddrud. Yn wir, gyda chymorth Swyddog Ynni Cartref Gofal a Thrwsio, gallech arbed ariandrwy gael awgrymiadau a thriciau ar arbed ynni. Gallwn helpu i wneud gwelliannau effeithlonrwydd ynni yn eich cartref, ac efallai y gallwn helpu gyda rhai o’r costau. Does dim rhaid i gartref cynnes gostio’r
ddaear i chi.

Am Gofal a Thrwsio

Ers dros 40 mlynedd, mae pobl hŷn wedi ymddiried mewn Gofal a Thrwsio i’w helpu I fyw mewn cartrefi diogel, cynnes a hygyrch.

Mae gan bawb yng Nghymru asiantaeth Gofal a Thrwsio leol, gyda thîm cyfeillgar a phrofiadol a all eich helpu i fyw’n annibynnol gartref. P’un ai gydag atgyweiriadau bach i wneud eich cartref yn fwy diogel, addasiadau mwy i’w wneud yn fwy hygyrch, neu gymorth i hawlio budd-daliadau a grantiau, mae Gofal a Thrwsio yma i helpu.

Sut y gall Gofal a Thrwsio helpu i’ch cadw’n gynnes

Mae ein tîm o Swyddogion Ynni Cartref yn arbenigwyr ar sicrhau bod eich cartref yn cael ei gadw’n gynnes. Gallwn:

  • Asesu eich cartref i wneud yn siŵr ei fod wedi’i inswleiddio a’i wresogi’n dda
  • Cynnig cyngor ar ffyrdd o arbed ynni
  • Eich helpu i wneud cais am fudd-daliadau a grantiau i’ch helpu i gadw’n gynnes
  • Sicrhau bod eich system ac offer gwresogi yn ddiogel
  • Helpu i wneud gwelliannau lle mae lleithder a chyddwysiad
  • Helpu i gysylltu eich cartref â chysylltiad nwy prif gyflenwad cyfagos
  • Eich cysylltu â gwasanaethau a chymorth arall gan Gofal a Thrwsio

I gael archwiliad cartref iach AM DDIM, ffoniwch eich Gofal a Thrwsio lleol heddiw ar:

0300 111 3333

www.careandrepair.org.uk

Ariennir yn Rhannol gan Lywodraeth Cymru
Rhan o Hwyluso - Cymorth ar gyfer Byw Annibynnol