Pythefnos Gofal Maeth 2023 Digwyddiadau

Mae'r Pythefnos Gofal Maeth hwn (15-28 Mai 2023), Y Rhwydwaith Maethu, prif elusen faethu y DU, a gwasanaethau maethu awdurdodau lleol yng Nghymru yn galw ar y gymuned fusnes ehangach i roi benthyg eu cefnogaeth a'i gwneud yn haws i'w gweithwyr gyfuno maethu a gweithio. Rydym yn cymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau maethu lleol i annog busnesau lleol i ddod yn gyfeillgar i faethu.

Isod mae rhestr o ddigwyddiadau Maethu Cymru Blaenau Gwent a gynhelir o fewn y 2 wythnos nesaf i ddathlu Bythefnos Gofal Maeth.

Sesiynau cwrdd a chyfarch Pythefnos Gofal Maeth 2023:

  • Dydd Llun 15 Mai 2023 – 11am – 2pm yn ymyl Boots, canol tref Tredegar
  • Dydd Mawrth 23 Mai 2023 – 11am – 2pm yn ymyl Iceland yng nghanol tref Glynebwy.

Bydd staff Maethu Cymru Blaenau Gwent ar gael ar gyfer trafodaethau o amgylch y gymuned maethu i rannu cyngor, gwybodaeth a sgyrsiau anffurfiol am faethu a sut i ymholi. Bydd pecynnau maeth ar gael ar y dydd ar gyfer unrhyw un sydd eu hangen.

Taith gerdded gymunedol Bythefnos Gofal Maeth 2023:

Dydd Iau 25 Mai 2023 – Top Tref Brynmawr - 11am i 2pm

Bydd staff Maethu Cymru Blaenau Gwent yn cynnal taith gerdded leol ym Mlaenau Gwent. Mae’r daith yn dechrau yn nhop Tref Brynmawr am 11am a bydd yn mynd drwy Brynmawr, Nantyglo, Blaenau a daw i ben yn nhref Abertyleri. Mae’r staff yno i rannu cyngor, cefnogaeth a gwybodaeth am faethu a sut i ymholi. Bydd pecynnau maethu ar gael i unrhyw un sydd angen hynny. Croeso i bawb!

Am fwy o wybodaeth am faethu yn y gymuned leol, ewch i: maethucymru.blaenau-gwent.gov.uk Alternatively, you can contact the fostering team on: fostering@blaenau-gwent.gov.uk