Trosolwg
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn ymroddedig i ddarparu gwasanaethau rheng-flaen mewn ffordd effeithlon ac effeithiol.
Y Cynnig
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn cynnig datblygu Canolfan Gweithrediadau newydd i’r Cyngor i gymryd lle’r Depot Canolog presennol sydd wedi’i leoli ym Mrynmawr ar hyn o bryd. Mae’r cynnig yn anelu i ddatblygu’r adeilad ar gyn safle Glofa’r Marine, Cwm, Glynebwy yn barod i’w weithredu ar gyfer 2023.
Ymgynghoriad
Bydd y ddogfen ymgynghori Cyn Ymgeisio a’r broses gysylltiedig yn rhoi cyfle i ymgyngoreion a rhai â diddordeb i ddysgu mwy am, deall a mynegi eu barn ar gynnig y Cyngor, fydd yn llywio’r penderfyniad terfynol ar sut yr eir â’r cynnig ymlaen i Cynllunio.
Bydd y cyfnod Ymgynghori Cyn Ymgeisio ar gyfer y cynnig hwn yn rhedeg am gyfnod o 28 diwrnod a bydd yn dechrau ar
17/07/2021
ac yn dod i ben ar
23/08/2021
Gall ymgyngoreion gyflwyno eu sylwadau ar y cynnig drwy’r holiadur ar-lein, fodd bynnag, dylid nodi mai dim ond ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori 28 diwrnod a gaiff eu hystyried yn ystod y cynnig hwn.
Bydd y Cyngor yn hoffi i chi ystyried yr wybodaeth a nodir ffurflen ar-lein yr ymgynghoriad a rhoi eich sylwadau ar y cynnig.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau ar yr wybodaeth sydd ar y dudalen gwefan hon, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio cyfeiriad e-bost dave.watkins@blaenau-gwent.gov.uk
Canlyniad yr Ymgynghoriad a’r Camau Nesaf
Adroddiad Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio
Cynhyrchir Adroddiad Ymgynghori Cyn Ymgeisio a chaiff pob sylw dilys eu hystyried o fewn y cynnig. Caiff yr adroddiad wedyn ei roi yn y Cais Cynllunio Mawr a gellir ei gyrchu drwy chwilio ar gofrestr Cynllunio y Cyngor maes o law.
Pob Ymholiad
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau ar yr wybodaeth a roddir o fewn y ddogfen, gallwch gysylltu â ni naill ai drwy ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost islaw, neu drwy ein ffonio ar 01495 355316
dave.watkins@blaenau-gwent.gov.uk
Mae croeso i chi hefyd lenwi’r arolwg ar-lein yn defnyddio’r ddolen ddilynol https://wh1.snapsurveys.com/s.asp?k=160804430159
Dylai pob ymateb i’r Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio ddod i law erbyn 5pm ar 23/08/2021 fan bellaf.
Dogfennau/Adroddiadau Cysylltiedig (wedi eu mewnblannu ar y dudalen)
- Llythyr Egluro
- Atodlen 1D Erthygl 2C a 2D – Cyhoeddusrwydd ac Ymgynghoriad cyn gwneud cais am Ganiatâd Cynllunio
- Datganiad Dylunio a Mynediad
- Adroddiad Gwerthuso Ecolegol Rhagarweiniol
- Asesiad Trafnidiaeth (1 o 2)
- Atodiadau - Asesiad Trafnidiaeth (2 o 2)
- Cynllun Teithio
- Barn Sgrinio Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb
- sesiad Lleoliad Archeolegol (MM218 Heneb Gofrestredig Injan Pwmpio Glofa’r Marine)
Darluniau Cysylltiedig (wedi mewnblannu ar y dudalen):
- Arolwg Safle Topograffaidd BGCBC-MARINE-TOPO-001-001 (1)
- Arolwg Safle Topograffaidd BGCBC-MARINE-TOPO-001-001 (2)
- Arolwg Safle Topograffaidd BGCBC-MARINE-TOPO-001-001 (3)
- TS1515 01 CYNLLUN LLEOLIAD Y CYNLLUN ARFAETHEDIG
- TS1515 02 CYNLLUN SAFLE Y CYNLLUN ARFAETHEDIG
- TS1515 03 CYNLLUNIAU LLAWR Y CYNLLUN ARFAETHEDIG
- TS1515 04 DEUNYDDIAU GWEDDLUNIAU’R CYNLLUN ARFAETHEDIG
- TS1515 05 ADRANNAU O’R CYNLLUN ARFAETHEDIG