Mae cynigion cyllideb ddrafft Blaenau Gwent ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22 yn awr ar gael a bydd y Cyngor yn eu hystyried ar gyfer cymeradwyaeth ddechrau mis Mawrth.
Yn dilyn y setliad darpariaethol gan Lywodraeth Cymru, mae rhagolygon y gyllideb wedi gwella, gyda chynnydd o 3.6% mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn wedi rhoi £4.2 miliwn o gyllid ychwanegol i’r cyngor uwchben amcangyfrifon dechreuol y gyllideb.
Mae’r sefyllfa ar gyfer 2021/22 yn rhagweld cyllideb gytbwys i gynghorwyr ei hystyried, heb unrhyw doriadau i wasanaethau. Mae’r Cyngor yn deall gwerth y gwasanaethau y mae’n eu darparu ar gyfer preswylwyr lleol ac mae hon yn sefyllfa a groesewir ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Rhag-gynllunio
Mae ein dull o gynllunio ariannol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf wedi galluogi llunio cyllideb gytbwys ar gyfer y flwyddyn nesaf. Bu dull gweithredu mwy masnachol a meddwl am ffyrdd gwahanol i ddiwallu anghenion ein preswylwyr, busnesau ac ymwelwyr yn allweddol i hyn. Mae ein hymagwedd fasnachol yn parhau wrth i ni gynllunio ar gyfer darparu gwasanaethau yn yr ychydig flynyddoedd nesaf gyda’n rhaglen ‘pontio’r bwlch’.
Adferiad a Blaenoriaethau
Dros y misoedd nesaf mae’n rhaid i’r Cyngor a’i bartneriaid barhau i ganolbwyntio ar reoli’r pandemig a gwneud popeth a fedrwn i gadw ein dinasyddion a’n cymunedau yn ddiogel.
Fodd bynnag, wrth i ni edrych at adferiad, rydym eisiau clywed lle credwch chi y dylem fod yn rhoi ein ffocws a’n blaenoriaethau:
• Diogelu gwasanaethau craidd heb unrhyw doriadau i’r gyllideb
• Ystyried cynyddu’r Gyllideb Ysgolion gan yr un faint â’r cynnydd cyffredinol mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru – 3.6%
• Sicrhau arbedion o £750,000 o leiaf o’n rhaglen Pontio’r Bwlch
• Cyfrannu i’n cronfeydd wrth gefn i gynyddu ein cydnerthedd ariannol a chyllido cyfleoedd a pwysau yn y dyfodol.
Treth Gyngor
Daw tua 24% o incwm y Cyngor o’r Dreth Gyngor.
Cynllun ariannol y Cyngor yw ystyried cynyddu’r Dreth Gyngor gan 4% o fis Ebrill 2021. Byddai cynnydd o 4% yn golygu cynnydd o tua £0.87c yr wythnos ar gyfer aelwydydd Band A a chynnydd o tua £1.02 yr wythnos ar gyfer aelwydydd Band B.
Bydd cynghorwyr yn craffu ar gynigion y gyllideb ar 23 Chwefror.
Disgwylir setliad cyllideb terfynol Llywodraeth Cymru ar 2 Mawrth a bydd y cyngor yn cwblhau cyllideb gytbwys ar 4 Mawrth yn dilyn canlyniadau craffu a’r cynigion treth gyngor.
Mae gennym ddiddordeb yn eich barn chi ar ein blaenoriaethau a lefel y Dreth Gyngor sy’n cael ei hystyried a gallwch ddweud roi eich yma