Trosolwg
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn ymroddedig i ddarparu addysg ansawdd uchel i bob plentyn a pherson ifanc, a deilwriwyd i ddiwallu eu hanghenion, datblygu eu potensial, cynyddu uchelgais, hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol a chyfrannu at adfywiad economaidd yr ardal.
Dros y 10 mlynedd ddiwethaf buddsoddodd y Cyngor yn helaeth yn Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif i wella adeiladau ysgolion. Mae'r Cyngor hefyd yn cydnabod pwysigrwydd cael adeiladau modern ac addas i'r diben sy'n diwallu anghenion addysg heddiw.
Y Cynnig
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn cynnig datblygu Ysgol Gynradd Gymraeg newydd 210 lle 3 i 11 oed yn cynnwys cyfleuster meithrin 30 lle a lleoliad gofal plant diwrnod llawn ar wahân ar gyfer hyd at 28 o blant 0-3 oed yn Sirhywi, Tredegar, Nod y cynnig yw datblygu'r ysgol a'r adeilad gofal plant ar y cae yn Chartist Way.
Caiff y datblygiad hwn ei gyllido gan Grant Cyfrwng Cymraeg a Rhaglen Cyfalaf Gofal Plant Llywodraeth Cymru.
Nod y rhaglen Cynnig Gofal Plant yw cefnogi rhieni yn ôl i gyflogaeth, rhoi mwy o ddewis iddynt am gyflogaeth, rhoi mwy o incwm dros ben iddynt, gan hefyd ddatblygu'r sector gofal plant yng Nghymru.
Ymgynghoriad
Bydd y ddogfen ymgynghori Cyn Ymgeisio a'r broses gysylltiedig yn rhoi cyfle i ymgynghoreion a rhai â diddordeb i ddysgu mwy am, deall a mynegi eu sylwadau ar gynnig y Cyngor, fydd yn sail i'r penderfyniad terfynol ar sut yr eir â'r cynnig ymlaen i Cynllunio.
Bydd y cyfnod Ymgynghori Cyn Ymgeisio ar gyfer y cynnig hwn yn parhau am gyfnod o 35 diwrnod a bydd yn cychwyn ar
Dydd Llun 7 Chwefror 2022
ac yn dod i ben ar
Dydd Sul 6 Mawrth 2022
Gall ymgynghoreion gyflwyno eu barn ar y cynigion drwy'r holiadur ar-lein, fodd bynnag, dylid nodi mai dim ond ymatebion a ddaw i law o fewn y cyfnod ymgynghori o 28 diwrnod a gaiff eu hystyried yn ystod y cynnig hwn.
Gellir hefyd weld y cynlluniau ar gyfer y datblygiad yn Ll;yfrgell Tredegar, Fflat 6, Y Cylch, Tredegar, NP22 3PS
Hoffai'r Cyngor i chi ystyried yr wybodaeth a nodir ar ffurflen yr ymgynghoriad ar-lein a rhoi eich sylwadau ar y cynigion.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau a roddir ar y dudalen gwefan, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda un ai drwy ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost 21stcenturyschools@blaenau-gwent.gov.uk, neu ein ffonio ar (01495) 355470.
Canlyniad yr Ymgynghoriad a'r Camau Nesaf
Adroddiad Ymgynghori Cyn Ymgeisio
Caiff Adroddiad Ymgynghori Cyn Ymgeisio ei baratoi a chaiff yr holl sylwadau dilys eu hystyried o fewn y cynnig. Caiff yr adroddiad wedyn ei gynnwys yn y Prif Gais Cynllunio a medrir ei gael drwy chwilio ar gofrestr Cynllunio y Cyngor maes o law.
Pob Ymholiad
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau am yr wybodaeth a gynhwysir yn y ddogfen hon, gallwch gysylltu â ni naill ai drwy ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost islaw neu drwy ein ffonio ar (01495) 355470.
Mae croeso i chi hefyd lenwi'r arolwg ar-lein yn defnyddio'r ddolen: https://online1.snapsurveys.com/2yfpph
Dylai pob ymateb i'r Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio ddod i law erbyn Hanner nos ar 6 Mawrth 2022.
Dogfennau cysylltiedig (ynghlwm â'r dudalen):
- Llythyr Egluro
- Atodlen 1B Erthygl 2C a 2D - Cyhoeddusrwydd ac Ymgynghoriad cyn ymgeisio am Ganiatâd Cynllunio
Design & Access Statement - Coal Mining Report
- Ground Investigation Interpretative Report
- Preliminary Ecological Appraisal
- Drainage Strategy
- Transport Assessment
- Travel Plan
- GGAT Report 1
- GGAT Report 2
Lluniadau Cysylltiedig (ynghlwm â'r dudalen):
- TS1297_P01 Site Location Plan.pdf
- TS1297_P02 Existing Site Survey.pdf
- TS1297_P03 Site Constraints.pdf
- TS1297_P04 Proposed Site Plan.pdf
- TS1297_P05 Proposed GA Plan.pdf
- TS1297_P06 Proposed Roof Plan.pdf
- TS1297_P07 Proposed Elevations 1.pdf
- TS1297_P08 Proposed Elevations 2.pdf
- TS1297_P09 Proposed Sections.pdf
- TS1297_P10 External 3D Views.pdf
- TS1297_P11 3D Site Views 1.pdf
- TS1297_P12 3D Site Views 2.pdf
- TS1297_P13 Site Sections.pdf
Landscaping drawings
Enw'r Tîm: Tîm Trawsnewid Addysg
Rhif Ffôn: 01495 355470
Cyfeiriad: Adran Addysg, Llawr 8 Llys Einion, Abertyleri, Blaenau Gwent NP13 1DP
Cyfeiriad E-bost: 21stcenturyschools@blaenau-gwent.gov.uk