Mae eich llais yn bwysig
Byw ym Mlaenau Gwent yn arolwg am breswylwyr sy’n cael ei gynnal gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Trwy ymateb i'r arolwg hwn byddwch yn helpu Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent i ddeall yn well:
- Beth sy'n bwysig i chi
- Eich profiad o'ch ardal leol
- Sut rydych chi'n gweld ac yn rhyngweithio â'r Cyngor
Yn y pen draw, bydd eich barn yn helpu i lunio eich ardal leol a'ch gwasanaethau lleol. Felly, mae'n bwysig clywed gan gymaint o breswylwyr â phosibl. Anogwch eich teulu, ffrindiau a chymdogion i gwblhau'r arolwg hwn.
Croesewir ymatebion gan bob preswylydd 16 oed ac uwch.
Cwblhau’r arolwg
Mae'r arolwg yn cynnwys 11 adran fer a bydd yn cymryd tua 10 munud i'w gwblhau.
A fyddech chi cystal ag ymateb erbyn 3 Tachwedd 2024.
Os ydych chi’n dymuno i ni anfon copi papur atoch chi drwy’r post neu os hoffwch gael copi o’r ffurflen mewn fformat arall, cysylltwch â engagement@blaenau-gwent.gov.uk
Bydd yr arolwg hwn yn agor ar 23 Medi 2024.
Pwyswch yma i ddechrau (cewch eich trosglwyddo i wefan Data Cymru)
Arolwg Cenedlaethol o Breswylwyr - Copi Papur
Arolwg Cenedlaethol o Breswylwyr - Hawdd ei Ddeall
Sut y bydd eich data yn cael ei ddefnyddio
Mae Data Cymru yn cynnal yr arolwg hwn ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent. Mae'r cwestiynau craidd sy'n cael eu gofyn i chi hefyd yn cael eu gofyn mewn llawer o gynghorau lleol eraill ledled Cymru fel rhan o ddull ehangach o glywed gan breswylwyr.
Yn ogystal â'ch ymatebion i'r arolwg, pan fyddwch yn cwblhau'r arolwg ar-lein, bydd eich cyfeiriad IP (cyfres unigryw o rifau sy'n nodi pob cyfrifiadur) yn cael ei gasglu i'n helpu i nodi ymatebion dyblyg neu amhriodol.
Bydd gwybodaeth a allai eich adnabod yn cael ei gweld gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a Data Cymru yn unig a bydd yn cael ei chadw am 3 mlynedd o'r dyddiad y mae'r arolwg yn cau.
Gellir defnyddio gwybodaeth ddienw i ddatblygu'r arolwg ymhellach, ar gyfer adrodd, ac fel rhan o drafodaeth ranbarthol neu genedlaethol.
Bydd yr wybodaeth a roddwch yn cael ei thrin yn gyfrinachol yn unol â gofynion Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR).
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent wedi'i gofrestru fel Rheolwr Data gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir gweld ei'n bolisi preifatrwydd ar ei'n wefan.
Gellir gweld polisi preifatrwydd Data Cymru ar eu wefan.