Hunanasesiad 2022/23

Mae’n ofyniad dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 fod cynghorau yn parhau i adolygu eu perfformiad drwy hunanasesiad, gyda’r angen i gyhoeddi adroddiad yn cyflwyno casgliadau’r hunanasesiad unwaith bob blwyddyn ariannol.

Hwn yw adroddiad hunanasesiad ail Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ar gyfer blwyddyn 2022/23. Ffocws yr hunanasesiad yw Cynllun Corfforaethol y Cyngor a rhoi asesiad o ba mor dda y mae’r Cyngor yn teimlo iddo gyflawni ei Amcanion Llesiant, a amlinellwyd yn y Cynllun Corfforaethol, a lle mae angen gwelliant pellach.

I fod yn gydnaws â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, mae’r Cyngor hefyd wedi rhoi asesiad ar egwyddor datblygu cynaliadwy, 7 maes corfforaethol cynllunio a’r nodau llesiant.

Datblygwyd yr hunanasesiad hwn ar adeg penodol ac mae’n cynnwys yr wybodaeth oedd ar gael bryd hynny. Mae ymagwedd y Cyngor at hunanasesiad yn broses adolygu barhaus a hyblyg a chaiff yr asesiad ei ddiweddaru fel a phan y daw mwy o wybodaeth ar gael. Mae’r Cyngor hefyd yn cydnabod y bydd y broses hunanasesu yn esblygu dros gyfnod i ddiwallu gofynion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 a chaiff y trefniadau ei diwygio fel sy’n briodol wrth symud ymlaen er mwyn cael rhaglen effeithlon o adolygu a gwerthuso yn ei lle i herio effeithlonrwydd y gwasanaethau a ddarperir. Fel rhan o’r broses hon, mae’r Cyngor yn rhagweithiol wrth hyrwyddo a chymryd rhan mewn gweithgareddau cyfranogiad ac ymgysylltu gyda gwahanol grwpiau a’r gymuned. Mae tystiolaeth o’r gweithgaredd hwn i’w gweld ledled y ddogfen a chynhelir gwaith pellach drwy gydol y flwyddyn i ymestyn ein cyrraedd a hyrwyddo tryloywder.

Fel cyngor gweithiwn i ddull ‘Un Cyngor’ a chaiff hyn ei weld drwy’r ddogfen i gyd gyda gwahanol enghreifftiau a thystiolaeth o weithgaredd yn mynd dan nifer o flaenoriaethau a themâu strategol. Caiff cynnydd a heriau eu dynodi ym mhob rhan o’r ddogfen hefyd. Lle cafodd her ei hadnabod, dynodwyd cam gweithredu cyfatebol i’w weithredu dros y flwyddyn i ddod.

Cyngor
Data
Adborth
Mae’r Cyngor yn croesawu unrhyw adborth a all fod gennych am Hunanasesiad 2022/23. Mae eich barn yn bwysig i ni ac rydym eisiau gwybod pa wybodaeth yr hoffech ei gweld a sut yr hoffech weld hynny’n cael ei adrodd. Cysylltwch â’r tîm drwy ddefnyddio’r manylion isod os hoffech roi adborth ar yr Asesiad.
Tîm Perfformiad Corfforaethol
Sarah King, Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Swyddfeydd Cyffredinol
Heol Gwaith Dur
Glynebwy
pps@blaenau-gwent.gov.uk