| |
 Ymgynghoriad ar Gynigion i Fabwysiadu Deddfwriaeth Newydd yn rheoli Safleoedd Adloniant Rhywiol
|
Fel Cyngor, gofynnwn am farn dinasyddion Blaenau Gwent yng nghyswllt mesurau rheoli ar safleoedd adloniant rhywiol. Mae?r rhain yn safleoedd sy?n darparu adloniant oedolion megis:
*Dawnsio côl *Dawnsio polyn *Dawnsio bwrdd *Sioe strip *Sioe sbecian *Sioe rhyw byw
Ar hyn o bryd byddai?r mathau yma o safleoedd yn dod dan reolaeth Deddf Trwyddedu 2003, yn debyg iawn i unrhyw safleoedd trwyddedig eraill. Fodd bynnag, mae pryderon y gall y mesurau rheoli hyn fod yn rhy gyfyngedig ac yn annigonol ar gyfer y mathau o adloniant a roddir mewn Safleoedd Adloniant Rhywiol.Rhywiol.
|
Cynyddu Mesurau Rheoli
Byddai mabwysiadu cyfreithiau newydd yn golygu fod mwy o ddisgresiwn ar gael i?r Cyngor yn ogystal â?r mesurau rheoli dan Ddeddf Trwyddedu 2003. Byddai?r meini prawf ar gyfer gwrthod yn cynnwys:
(a)addasrwydd yr ymgeisydd i ddal trwydded o?r fath; (b)nifer y sefydliadau rhyw yn yr ardal honno; (c)cynllun a chymeriad y safle, ac ati.
Fodd bynnag, dylid nodi na fyddai seiliau crefyddol neu foesol yn cyfrif fel sail ar gyfer gwrthodiad dan y cyfreithiau newydd.
Byddai?r Cyngor felly?n hoffi cael eich barn p?un ai i fabwysiadu?r ddeddfwriaeth newydd i roi mwy o fesurau rheoli ar Safleoedd Adloniant Rhywiol neu gadw lefelau presennol y mesurau rheoli dros safleoedd dan Ddeddf Trwyddedu 2003.
Bydd y cyfnod ymgynghori yn rhedeg rhwng 18 Gorffennaf 2011 a 9 Medi 2011.i 2011.
|
|
|
Ydych chi?n credu y dylai?r cyngor fabwysiadu mwy o fesurau rheoli ar safleoedd adloniant rhywiol fel y?u diffinnir uchod?
|
|
|
|
|
Er nad yw?n rhaid i chi roi eich enw a?ch cyfeiriad, byddem yn ddiolchgar pe byddech yn rhoi?r manylion hyn ac unrhyw sylwadau arall yr hoffech eu gwneud.
|
Diolch i chi am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad yma. Gwerthfawrogir eich sylwadau yn fawr a chaiff yr holl sylwadau eu casglu a rhoddir adroddiad i Bwyllgor Trwyddedu?r Cyngor maes o law, pan y penderfynir p?un ai i fabwysiadu?r cyfreithiau newydd.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am yr ymgynghoriad yma, cysylltwch â?r Tîm Trwyddedu ar 01495 355961 os gwelwch yn dda.
|
| |